Cynhaliwyd Carnifal llwyddiannus ar ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf yn Pontrhydfendigaid.
Roedd yn hyfryd gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i fwynhau ar ôl dwy flynedd anodd.
Dechreuwyd yr orymdaith o’r Glas, gan fynd ymlaen drwy’r pentre i Bafiliwn y Bont lle’r oedd y gweithgareddau’n cael eu cynnal.
Llywydd a beirniad y carnifal oedd Sioned Fflur Jones, a chafwyd ganddi eiriau pwrpasol cyn iddi goroni’r frenhines am 2022 – Gwenno Fflur Evans.
Cyflwynwyd blodau i Sioned gan frenhines y carnifal ola a gynhaliwyd yn 2019, Mari Herberts, a chyflwynwyd anrhegion i’r frenhines a’i gosgordd gan bwyllgor y carnifal.
Arweinydd y gweithgareddau oedd Ifan Jones Evans, a chafwyd prynhawn difyr iawn yn ei gwmni. Yn dilyn y cystadlu, mwynhawyd lluniaeth yn y pafiliwn, a mabolgampau y tu allan, gan orffen y noson gydag adloniant yng nghwmni Dai Pantrod.
Buddugwyr
Cynllunio clawr i raglen y Carnifal: Isla Sage. Fflôt neu Dablo: 1, Ysgol Sul Rhydfendigaid (Barti Dduw a’i forladron); 2, Yr Ysgol Feithrin (Castell Meithrin).
Plant oedran Grŵp Ti a Fi: 1, Gwion Pugh (Jac y Jwc); 2, Defi Evans (Saer rhif 10); 3, Awen Jones (Beirniad Eisteddfod) a Gruff Edwards (Geraint Thomas).
Plant oedran Ysgol Feithrin: 1, Steffan Hughes (Owain Glyndwr); 2, Jos Evans (Boris); 3, Elan Williams (Bwrw Glaw).
Plant Bl Derbyn: 1, Jano Jones (‘I gefn llwyfan os gwelwch yn dda’); 2, Heti Evans (Sue Barker); 3, Lois Edwards (Nyrs).
Plant Bl 1 a 2: 1, Rhys Williams (Charles Arch yn y Sioe); 2, Deio Jones (Archdderwydd); 3, Oranutang (Maisie Durber).
Plant Bl 3 a 4: 1, Seren Fflur (Mistar Urdd); 2, Katie Bratt (Mecsican); 3, Izzy Yandell (Tywysoges).
Plant Bl 5 a 6: 1, Sara Pugh (Cupcake); 2, Anest Jones (Pris Petrol); 3, Rowan Durber (Rowena) ac Elen Hughes (Steffi Graff).
Oedran Ysgol Uwchradd ac Oedolion: 1, Jên Ebenezer (Dressed to Kill); 2, Gwenda Hughes (Welsh Whisperer); 3, Kizzy Hughes (Seren heb Sbarc).
Pâr: 1, Deio a Jano (Archdderwydd a’r Delynores); 2, Gwen Fflur a Seren Fflur (Syr Ifan a Mistar Urdd); 3, Sara a Gwion Pugh (Cupcake a Fflwr Homepride).
Dyn fel menyw/Menyw fel dyn: 1, Glyndwr Hughes (Shân Cothi); 2, Gwenda Hughes (Welsh Whisperer); 3, Gwen Fflur (Syr Ifan) a Rowan Durber (Rowena).
Hysbyseb – Plant Cynradd ac Iau: 1, Jess Owen (Llaeth y Bont); 2, Sara Pugh (Cacennau Mr Kipling); 3, Rhys Williams (Llyfr Charles Arch).
Hysbyseb - Oedolion ac Oedran Uwchradd: 1, Jên Ebenezer (Dim Smocio); 2, Glyndwr Hughes (Drag Race UK); 3, Leah Durber (Achub y Gwenyn) a Kizzy a Sam Hughes (Siarter Iaith).
Y gorau o enillwyr y plant cynradd ac iau: Jess Owen (Llaeth y Bont).
Y gorau o enillwyr oedran uwchradd ac oedolion: Jên Ebenezer.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.