Madam,
Dangosodd adroddiad tasglu y Dr Elin Jones (Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, Medi 2013) bod y sylw a roddir i hanes Cymru yn gwbwl annigonol, neu’n wir yn prin ddigwydd, mewn llawer iawn o ysgolion. Gwnaed nifer o argymhellion pwysig, gan gynnwys datgan y “dylai’r fersiwn nesaf o’r cwricwlwm cenedlaethol i Gymru gymryd fel man cychwyn syniadau’r Cwricwlwm Cymreig presennol” ac na ddylid mwyach “gyfeirio at ‘gwricwlwm cenedlaethol’ a ‘Chwricwlwm Cymreig’ ond at ‘gwricwlwm Cymru’ yn unig”.
Wrth gyhoeddi y byddai’r Athro Donaldson yn arwain adolygiad o addysg yng Nghymru ym Mawrth 2014, dywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis, ei fod “am weld cwricwlwm unigryw yn cael ei ddat-blygu i Gymru”. Nid yw adroddiad Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, yn cynnig unrhyw arweinad clir ar sut y gweithredir y dyheadau hyn.
O ganlyniad, mae pryder gwirioneddol na fydd y cwricwlwm newydd yn adlewyrchu nodweddion neilltuol Cymru ac, o ran hanes, y bydd ysgolion yn parhau i anwybyddu hanes Cymru.
'Hundreds' have faced criminal sanctions over smacking since ban, campaign group says
Development Bank helps deliver new eco-friendly holiday lodges in Ceredigion
Mari Lwyd to return to streets of Aberystwyth to celebrate Yr Hen Galan
Meet the 4x4 heroes transporting medics and supplies during bad weatherNi ellir caniatau i sefyllfa o’r fath barhau, felly ymunwch â ni i leisio eich barn ac i gyfrannu i’r broses o ddatblygu polisïau amgen trwy fynychu’r gynhadledd ‘Dysgu Hanes i’n Plant. Pa Hanes?’ a gynhelir yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr ddydd Sadwrn 26ain o Dachwedd am 1 o’r gloch. Y siaradwyr yw Dr Elin Jones, Ystrad Mynach ac Eryl Owain, Penmachno a llywyddir gan John Dilwyn Williams, Pen-y-groes.
Cofrestrwch ar gyfer y gynhadledd bwysig hon trwy gysylltu â [email protected]
Yn gywir,
Dawi Griffiths, Cadeirydd y Ganolfan Hanes; Jina Gwyrfai, Cyd-drefnydd y Gynhadledd.

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.