MAE AELOD o CFfI Bryncrug, ym Meirionnydd wedi cael ei ethol fel is-gadeirydd dros Gymru.
Teithiodd aelodau o’r mudiad o bob cwr o Gymru i Aberystwyth ar gyfer penwythnos CCB CFfI Cymru.
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd Is-bwyllgor CFfI Cymru ar ddydd Sadwrn, 30 Medi, a chyfarfod Cyngor CFfI Cymru ddydd Sul, 1 Hydref, yng Ngwesty’r Marine.
Etholwyd yr aelodau nifer o swyddogion hefyd am y flwyddyn i ddod yn ystod y penwythnos gan gynnwys etholiad y llywydd newydd, Geraint Lloyd, cyflwynydd BBC Radio Cymru; Laura Elliott, CFfI Morgannwg, yn gadeirydd a Dafydd Jones, CFfI Meirionnydd fel is-gadeirydd.
Yn ystod cyfarfodydd yr is-bwyllgorau a’r cyfarfod cyngor trafodwyd y rhaglenni gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Etholwyd cadeirydd ac is-gadeirydd newydd i bob is-bwyllgor i fod yn gyfrifol o waith y pwyllgorau dros y 12 mis nesaf.
Yn ystod y CCB cyhoeddwyd enillwyr nifer o wobrau amrywiol y mudiad.
Roedd gan aelodau o Ffederasiwn Ceredigion reswm dilys iawn dros ddathlu ar ôl ennill Tlws wrth iddynt sgorio’r nifer uchaf o bwyntiau yng nghystadleuaeth CFfI Cymru yn ystod y flwyddyn.
Fe wnaeth Ceredigion hefyd ennill tlws Beynon Thomas, am y nifer uchaf o bwyntiau a sgoriwyd gan yr aelodau iau yng nghystadlaethau CFfI Cymru.
Cafodd tlws NFU Cymru ar gyfer y sir gyda’r cynnydd mwyaf mewn aelodaeth i Ffederasiwn Clwyd gyda chynnydd o 16 y cant yn eu haelodaeth.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.