Eleni mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dathlu 10 mlynedd.

Pan sefydlwyd y Coleg, y nod oedd sicrhau cynnydd yn nifer y pynciau prifysgol y gellid eu hastudio drwy’r Gymraeg.

Erbyn hyn mae 1,135 o staff mewn prifysgolion yn medru dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae dros 1,900 o fyfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau is-raddedig i ddilyn eu hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn 2019 roedd 4,740 o fyfyrwyr llawn amser yn astudio oleia rhywfaint o’r cwrdd addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Elin Jones AS: “Bu i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth chwarae rhan blaenllaw yn sefydliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wrth iddynt ddenu sylw’r wlad drwy eu protestiadau ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon yn gofyn am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r gwaith mae’r Coleg yn ei wneud yn hynod o bwysig, wrth iddynt sicrhau mwy a mwy o gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Yn ogystal ag atgyfnerthu’r iaith Gymraeg, mae hefyd yn ein cynorthwyo i greu gweithlu proffesiynol Cymraeg.”