Yn ddiweddar daeth ffermwyr Meirionnydd ynghyd i ddangos pwysigrwydd ffermio yn y sir ac i rannu syniadau a phryderon am y diwydiant yn sgîl yr ansicrwydd sy’n deillio o benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd AC Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru y Farwnes Eluned Morgan hefyd yn bresennol yn Esgairgyfela, Aberdyfi, sy’n cael ei redeg gan Dewi Owen a’i wraig Meinir.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod pwysigrwydd mynediad parhaus i’r farchnad sengl a dywedodd ffermwyr eu bod yn ofni’r posibilrwydd o wynebu tollau wrth allforio cynnyrch i’r UE, yn ogystal â’u pryder am ba gymorth bydd ar gael i amaethyddiaeth unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE.

Mae fferm cynrychiolydd Pwyllgor Cyllid a Threfn Undeb Amaethwyr Cymru Dewi Owen yn ymestyn i oddeutu 280 erw ac yn cadw 400 o ddefaid Mule Cymreig a 10 o wartheg Charolais pur.

Dywedodd Mr Owen: “Mae mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE yn hanfodol, yn enwedig i’r sector defaid Cymreig ac rydym wedi atgyfnerthu’r neges honno wrth gyfarfod ag Eluned Morgan yma ar y fferm."

Gwelwyd y story gyfan yn y Cambrian News yr wythnos hon, yn y siopau dydd Iau