Mae diwedd mis Chwefror yn nesau a felly mae pobl Pen Llyn a’r ardal lleol yn gwybod bod Parêd Dewi Sant blynyddol Llyn ac Eifionydd ond rownd y gornel fel petau.

Gyda’r parêd ei hun yn cymryd lle bore Sadwrn, 29 Chwefror, mae un digwyddiad blynyddol yn cymryd lle cyn y parêd a hwnna ydy Tapas Llyn, sy’n digwydd rhwng 24 a 29 Chwefror eleni.

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn siwr beth yw Tapas Llyn, dyma eglurhad bach: Tapas Cymreig lleol sy’n rhoi pwyslais ar ddefnyddio cynnyrch lleol gydag enw Cymraeg ar gyfer pob pryd, gyda’r bwriad o gyflwyno’r Gymraeg i bobl drwy ein bwyd.

Beth well na chefnogi cynnyrch a chaffis a bwytai lleol, a llenwi boliau yr un pryd!

Mae Ty Coffi Insomnia, Nefyn yn cymryd rhan yn Nhapas Llyn am y tro cyntaf eleni.

Dyma’r gwahanol leoliadau ym Mhen Llyn a Phwllheli fydd yn gweini Tapas Cymreig eleni: Gwesty T? Newydd, Aberdaron; Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog; Caffi Meinir, Nant Gwrtheyrn; Ty Coffi Insomnia, Nefyn; The Little Tea Rooms, Gwersyll Twyni, Abererch.

Ym Mhwllheli, bydd y canlynol yn cymryd rhan ac yn cefnogi’r parêd: Glasu, Gwalia, Taro Deg, Felin Fwyd a’r Whitehall.

Yn y llun gwelir Mared Llywelyn, aelod o bwyllgor Parêd Dewi Sant Llyn ac Eifionydd gyda Mathew Parry yn dal enghraifft o’r bwydydd fydd a’r gael yn Ty Coffi Insomnia, Nefyn yn ystod yr wythnos.