Ddydd Gwener ddiwethaf roedd hi’n diwrnod trist iawn yn ysgol gynradd Morfa Nefyn, nid yn unig ‘roedd yna criw o ddisgyblion Bl 3 yn gadael i symud ymlaen i unai ysgolion Edern neu Nefyn, ond roedd Pennaeth yr ysgol Nia Williams yn gadael ar ôl 18 mlynedd hapus iawn yn yr ysgol.

Bu Ms Williams yn Bennaeth am 10 mlynedd ond yn gweithio am gyfanswm o 18 mlynedd yna, yn gwneud llawer o ffrindiau yn ystod y cyfnod a bydd lle gwag iawn yna hebddi.

Cyn ei chyfnod ym Morfa Nefyn bu’n gweithio am pedair mlynedd yn ysgol gynradd Talsarnau.

Nawr bydd Ms Williams yn canolbwyntio a’r ei busnes adref gyda’i phartner ac mae pawb sy’n ymwneud ag ysgol Morfa Nefyn a’r ardal yn dymuno’r gorau iddi ac yn wir ddiolchgar i chi Ms Williams.

Hefyd yn y llun hefo Ms Williams mae naw o’r disgyblion oedd yn ffarwelio sef: Enfys Griffith, Swyn Davies, Ifan John Williams, Ryan Owen, Ifan Alun Midwood, Efan Hedd Hughes, Lili Sue Thomas, Yves Belle ac Erain Morgan, pob lwc i chi i gyd blantos.

See this week’s north editions, in shops and online now