MAE Ysgol Edern wedi llwyddo unwaith eto yng nghystadleuaeth barddoni Cymorth Cristnogol a drefnir ar y cyd â chwmni siocled Divine.
Dyma’r chweched blwyddyn yn olynol i’r ysgol gipio’r wobr gyntaf am ysgrifennu cerdd yn cyfleu amodau gwaith anodd ffermwyr coco gwledydd datblygiedig.
Enillydd teilwng y gystadlauaeth eleni oedd Hari Holt, Bl 5, a lwyddodd i ysgrifennu cerdd ar y thema: ‘Dathlu Siocled Divine’ sydd yn gweld gwerth cwmni Masnach Deg sy’n cefnogi ffermwyr coco drwy sicrhau eu bod yn derbyn cyflog teg am eu llafur caled.
Derbyniodd Hari wobrau gwerth chweil gan gynnwys nwyddau, siocled Divine a’i gerdd wedi fframio.
Yn y llun yma mae Hari Holt yn derbyn ei wobrau gyda Cynghorydd Edern a Morfa Nefyn Sian Hughes, pennaeth yr ysgol Meirwen Wiliams, Llinos Roberts o Gymorth Cristnogol, a Bethan Dyer, uwch gymhorthydd yn yr ysgol







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.