MAE awdur o Ddolgellau, Bethan Gwanas, wedi datgelu taw disgybl ysgol o’r enw Tyler Chown wnaeth ei hysbrydoli i ysgrifennu ei llyfr diweddaraf.
Mae Cadi a’r Deinosoriaid yn lyfr llun a stori ar gyfer darllenwyr ifanc rhwng pump ag wyth oed.
Tra’n trafod dau lyfr cyntaf cyfres Cadi gyda disgyblion yr ysgol, awgrymodd Tyler, o Ysgol Bro Cinmeirch yn Llanrhaeadr, y byddai’n syniad da i Cadi fynd i fyd y deinosoriaid – a chael ei llyncu, a dyna oedd yr hadyn berodd i Bethan Gwanas fynd ati i ysgrifennu’r llyfr.
Ym Mlwyddyn 2 yr oedd Tyler ar y pryd, ac erbyn hyn mae ym Mlwyddyn 4.
Mae Cadi a’r Deinosoriaid, yn llawn darluniadau lliwgar gan Janet Samuel o Bontarddulais sydd yn dod â’r jyngl yn fyw.
“Dwi wedi gwirioni efo lluniau Janet - maen nhw’n wych!” meddai Bethan Gwanas am waith y darlunydd sydd wedi darlunio’r tair stori.
Mae Bethan yn bendant ei barn am lyfrau gwreiddiol Cymraeg, ac yn credu’n gryf bod dylanwad cartrefi’n gryfach na dylanwad ysgol o ran arferion darllen.
Meddai Bethan: “Dim ond hyn a hyn all ysgolion ei wneud, mae’n rhaid i gariad at lyfrau fod yn rhan o fywyd y cartref. Mae rhieni, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau yn gallu bod o help mawr drwy ddarllen iddyn nhw yn ifanc a’u helpu wedyn i ddarllen drostyn nhw eu hunain - a chael eu gweld yn darllen eu hunain.”
“Dwi’n credu’n gryf bod angen hybu llyfrau gwreiddiol Cymraeg o Gymru ymysg yr oedran saith a throsodd. Dydyn nhw na’u teuluoedd ddim yn gwybod be sydd ar gael gan fod cyfieithiadau o’r Saesneg yn cael y sylw i gyd. Dim sylw = dim gwerthiant = llai o awduron Cymraeg,” ychwanegodd.
Mae’r llyfr wedi ennill clod gan athrawon am fod y stori’n dysgu plant sut mae’r system dreulio yn gweithio mewn ffordd ddoniol ac addysgiadol.