BU’N fwrlwm o gystadlu unwaith eto eleni yn Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn ar 20 Chwefror a braf oedd gweld Neuadd Egryn yn llawn. Y beirniaid oedd: Cerdd, Trystan Lewis, Deganwy; a’r Llefaru a Llenyddiaeth, Dorothy Jones, Llangwm.Tudur Jones, Tywyn oedd y cyfeilydd a’r arweinyddion oedd Bethan James, Edward Jones a Mair Rees. Y llywydd oedd Elain Micah Evans, yn enedigol o Lanegryn ond bellach yn byw yn y Foel.Enillydd y Gadair am yr ail flwyddyn yn olynol am gerdd ar y thema ‘Cysgodion’ oedd Hedd Bleddyn o Benegoes, a hynny 90 mlynedd wedi i’w dad ennill ei ail gadair yntau yn Llanegryn ym 1926.Cynlluniwyd y Gadair eleni gan ddisgybl o Ysgol Uwchradd Tywyn, sef Ifan Jones a chafwyd arddangosfa deilwng o waith celf a llenyddiaeth o’r ysgolion lleol i harddu’r neuadd. Dymuna’r pwyllgor ddiolch am y gwaith hwnnw o Ysgol Craig y Deryn ac Ysgol Uwchradd Tywyn ac i feirniaid y cystadlaethau lleol, sef Arwel a Gwenfair Pierce, Eurgain Owen, Sian Jarman, Jane Baraclough ac Islwyn Phillips.Rhoddwyd tri tlws yn ystod cyfarfod yr hwyr, sef Tlws yr Ifanc i Aron Wyn Parry o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth am y Rhyddiaith gorau dan 25ain oed, a thlws y cerddor mwyaf addawol dan 25ain i Heledd Besent o Bennal. Cyflwynwyd Tlws Dail Dysynni am erthygl i Lisa Markham o Lanfihangel y Pennant gan Arwel Pierce ac edrychwn ymlaen i’w darllen mewn rhifyn o’r papur bro yn fuan.Mentrodd un grwp dewr o ddysgwyr Cymraeg i’r eisteddfod am y tro cyntaf i berfformio yng nghystadleuaeth y sgets a chanmolodd Dorothy Jones y pwyllgor am eu hannog i gymryd rhan a phrofi diwylliant eu bro.Dymuna aelodau’r pwyllgor ddiolch am bob rhodd a gweithred er budd yr eisteddfod yn ôl eu harfer.Canlyniadau Llwyfan -Unawd meithrin a derbyn: Malena Gwyn, Parc. Llefaru eithrin a derbyn: Celt Dobson, Caerdydd. Unawd Bl 2 ac iau: Myfi Davies, Llangernyw. Llefaru Bl 2 ac iau: Gwenno Wigley, Darowen. Unawd Bl 3 a 4: Iwan Finnigan, Penrhyncoch. Llefaru Bl 3 a 4: Lowri Jarman, Llanuwchllyn. Unawd Bl 5 a 6: Elain Iorwerth, Trawsfynydd. Llefaru Bl 5 a 6: Zara Evans, Tregaron. Unawd Cerdd Dant Bl 6 ac iau: Lwsi Roberts, Meifod. Unawd Alaw Werin Bl 6 ac iau: Lwsi Roberts, Meifod.Deuawd Bl 9 ac iau: Beca a Gwenno, Llanuwchllyn. Unawd Offeryn Cerdd Bl 9 ac iau: Erin Aled, Llanuwchllyn. Unawd Merched/Bechgyn Bl 7-9: Mared Jones, Llanelltyd. Llefaru Bl 7-9: Gwenno Jarman, Llanuwchllyn. Unawd Cerdd Dant Bl 7-9: Beca Jarman, Llanuwchllyn. Unawd Alaw Werin Bl 7-9: Lois Gwynedd, Glanrafon. Parti Unsain neu Ddeulais Bl 9 ac iau: Ysgol y Gader, Dolgellau.Unawd Offerynnol dan 25: Heledd Besent, Pennal. Unawd dan 25: Heledd Besent, Pennal. Sgets y Dysgwyr: Dosbarth Sylfaen Tywyn. Unawd dros 60: Brynmor Jones, Caernarfon. Sgen ti dalent?: Ieuan Jones, Llandrillo-yn-Rhos. Sioe Gerdd dan 25: Ieuan Jones, Llandrillo-yn-Rhos. Tarian i’r cerddor mwyaf addawol dan 25: Heledd Besent, Pennal. Cân Werin: Meilir Wyn Jones, Aberhosan. Unawd Gymraeg: Aneira Evans, Aberhosan. Llefaru Agored: Heledd Besent, Pennal. Her Unawd: Aneira Evans, Aberhosan. Côr: Côr Bro Meirion.Canlyniadau Llenyddiaeth -Meithrin a Derbyn: Aneira Jones, Ysgol Craig y Deryn. Bl 1 a 2: Charlotte Hansford ac Emily Harris, Ysgol Craig y Deryn. Bl 3 a 4: William Maynard ac Izzie Golder, Ysgol Craig y Deryn. Bl 5 a 6: Ollie Waldock a Heledd Owen, Ysgol Craig y Deryn. Bl 7-9: Erin Roberts, Ysgol Uwchradd Tywyn. Bl 10 ac 11: Cerys Anwyl Roberts, Ysgol Uwchradd Tywyn. Tlws yr Ifanc: Aron Wyn Parry, Ysgol Bro Hyddgen.Cyfieithu: John Meurig Edwards, Aberhonddu. Erthygl Papur Bro a Thlws Dail Dysynni: Lisa Markham, Llanfihangel y Pennant. Y Gadair: Hedd Bleddyn, Penegoes. Englyn: John Parry, Llanfairpwll. Telyneg: Gaenor Jones, Aberystwyth. Limrig: Ieuan Jones, Talsarnau.Canlyniadau Celf -Meithrin a Derbyn: Molly Hodges, Ysgol Craig y Deryn. Bl 1 a 2: Leila Jay Pierce, Ysgol Craig y Deryn. Bl 3 a 4: Sophie Greenwood, Ysgol Craig y Deryn. Bl 5 a 6: Amelia Burt, Ysgol Craig y Deryn. Bl 7-9: Mia Banks, Ysgol Uwchradd Tywyn. Bl 10-11: Heledd Jones, Ysgol Uwchradd Tywyn. Bl 10-11: Cynllunio cadair fechan i’r bardd buddugol: Ifan Jones, Ysgol Uwchradd Tywyn.