Llwyddodd bardd lleol i gyflawni camp y goron driphlyg drwy ennill y Goron am y trydydd tro. Y bardd buddugol oedd yr awdur a’r newyddiadurwr Lyn Ebenezer.

Dyfarnwyd ef y gorau allan o ddeg am ei gerddi ar ‘Gwrthryfel’. Dewisodd ganu am Wrthryfel Y Pasg 1916 yn Nulyn.

Enillodd y ddwy Goron arall yn 2007 a’r llynedd. Yn y llun gwelir ef a’i wyrion, Anni a Ffredi yn dal y tair Coron.http://cambriannews.newsprints.co.uk/search/scu/p/u/245079/1/eisteddfod%20pontrhydfendigaid