MAE disgyblion Bl 6 yn Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, wedi ennill gwyl ffilm PICS, sydd yn gystadleuaeth genedlaethol, dair blynedd yn olynol.Y ddwy flynedd gyntaf yn y categori cynradd ac eleni mewn categori newydd i blant a phobl ifanc o dan 25 oed. Mae eu holl ffilmiau i’w gweld ar sianel Youtube yr ysgol, sef Sianel Cefn Coch.Cafodd y sianel ei greu tua saith mis yn ôl ar ôl i ddwy o enethod Bl 5 (Lois Angharad Jones a Lois Erin Jones) gael syniad o greu rhaglenni i ddisgyblion yr ysgol. Erbyn hyn mae criw o blant yn gyfrifol am feddwl am syniadau a ffilmio’r cynnwys. Mae’r sianel wedi bod yn hynod o boblogaidd gyda dros 7,000 o edrychiadau a dros 50 o danysgrifwyr erbyn hyn. Mae’r sianel hyd yn oed wedi cyrraedd S4C, gydag un o’r rhaglenni yn cael ei dangos ar raglen newydd i blant, sef Fideo Fi!