Mae Pwyllgor Apêl Plwyf Botwnnog yn trefnu gardd agored ym Mhlas Nanhoron ar ddydd Sul nesaf, 23 Ebrill i godi pres i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Yn enwog am ei choed a pherthi, y gwanwyn yw un o’r adegau gorau i fwynhau’r gerddi yma.

Fe welwch ardd flodau gyda borderau llysieuol llwyni a rhosod, gardd gegin furiog yn llawn llysiau, ffrwythau, perlysiua a blodau i’w torri.

Crwydrwch drwy Nant yr Ala, taith gerdded goetir hanesyddol sy’n arwain at y Dingle, yr arboretum newydd, wedi’i lenwi â rhododendronau, azaleas, eucrophias, acers, hydrangeas a magnolias ymhlith llawer o rai eraill.

Bydd te blasus yn eich gwobrwyo am eich taith trwy’r gerddi.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â [email protected]

Mynediad £10 i gynnwys te. Plant ysgol am ddim – codir tâl bychan am luniaeth i blant.

Croesewir cŵn ar dennyn, gwisgwch eisgidiau addas, a noder oherwydd tirwedd y llwybrau nad ydynt yn addas ar gyfer coetsys, neu gadeiriau olwyn.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]