Cymorth Cristnogol
ER GWAETHA’R tywydd stormus ofnadwy, braf oedd gweld nifer dda wedi mentro allan ar gyfer noson arbennig wedi ei threfnu gan bwyllgor lleol Cymorth Cristnogol sef Carol, Cerdd a Chân yn Eglwys San Pedr. Offrymwyd gweddi agoriadol gan y Ficer y Parchedig Andy Herrick. Hefyd estyn-nodd croeso cynnes i bawb a datganodd ei lawenydd o weld aelodau eglwysi’r dref yn dod at ei gilydd i gefnogi achos mor deilwng. Yn cym-ryd rhan roedd Côr Merched Corisma, Côr Llefaru Sarn Helen, Plant Ysgol Carreg Hirfaen, Swyddogion Ysgol Bro Pedr, Parti Gernant, Lowri Elen, Canon Aled Williams, Elin Williams ac aelodau’r Urdd. Mwynhawyd noson ard-derchog gyda’r cantorion a’r llefarwyr i gyd yn rhoi perfformiadau clodwiw a chreu naws hyfryd y Nadolig. Talodd Twynog Davies, Cadeirydd y pwyllgor lleol deyrnged uchel i bawb oedd wedi cymryd rhan am noson i’w chofio wrth ein tywys i Fethlehem, i’r Ficer a wardeiniaid San Pedr am bob cydweithrediad, i Elonwy am ei gwasanaeth amhrisiadwy wrth yr organ, i’r tri gwr doeth wrth y drws, i Janet am ei threfniadau trylwyr ac i Llinos am ei chymorth hithau. Diolchodd i’r Maer a’r Faeres y Cynghorydd a Mrs Chris Thomas a phawb oedd wedi troi allan ar noson mor wlyb i gefnogi Cymorth Cristnogol sy’n rhoi gobaith i dlodion y byd trwy wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau. Hefyd croesawodd Y Parch Andy Herrick i’r ardal a dymunodd yn dda iddo yn ei gylch newydd o eglwysi. Fel un oedd yn weithgar iawn gyda Chymorth Cristnogol yn ardal Aberystwyth soniodd Twynog mai pleser fydd ei groesawu fel aelod o bwyllgor Llambed a’r cylch fydd yn cyfarfod ym mis Ionawr.
Cymanfa Garolau
BRAF OEDD gweld cynulliad teilwng wedi dod ynghyd i Gymanfa Garolau yn Noddfa wedi ei threfnu gan Adran ac Aelwyd yr Urdd Llanbedr Pont Steffan. Arweinydd y noson a hynny ar fyr rybudd oedd Rhiannon Lewis a chafwyd canu ardderchog a’r plant wrth eu bodd yn ei chwmni ac yn ymateb i’w chwestiynau gyda brwdfrydedd a hiwmor. Cyfoethogwyd y Gymanfa hefyd gan gyfraniad Delyth Morgans Phillips wrth yr organ. Yn ystod y noson, pleser oedd gwrando ar eitemau amrywiol yn cynnwys unawdau, adroddiadau, dar-lleniadau o’r Beibl, deuawd cerdd dant, grwp llefaru a datganiadau swynol gan Gôr yr Adran a pharti’r Aelwyd dan arweiniad Rhiannon, a Lois yn cyfeilio, a phawb yn rhoi o’u gorau. Hefyd bu’r plant a’r bobl ifanc yn darllen y carolau gan gyflawni eu gwaith yn raenus. Ar ddiwedd y Gymanfa talodd Llinos deyrnged uchel i bawb oedd wedi cymryd rhan, i wirfoddol-wyr gweithgar yr Urdd oedd wedi bod wrthi’n paratoi sef Rhiannon, Lois, Janet ac Elin ac yn olaf ond nid y lleiaf i Weinidog a swyddogion Noddfa am gael defnyddio’r capel. Mae dyled yr aelodau yn fawr hefyd i Llinos am ei chymorth mawr hithau gyda’r trefniadau. Roedd elw’r noson yn mynd tuag at brynu adnoddau Cymraeg i wardiau’r plant yn ysbytai Glangwili a Bronglais. Diolchir yn gynnes i bawb am eu cefnogaeth. Traddodwyd y fendith gan y Parch Jill Tomos.