Capel Brondeifi

DDYDD Sul, 13 Rhagfyr derbyniwyd aelodau newydd: Alun Davies, Heddle, Llanbed; Nia Rowcliffe a Gavin Lloyd, Crymych; ac ar ddydd Nadolig y ddwy chwaer, Natalie a Lisa Moore, Davwen, Penybryn, Llanbed.Ddydd Sul, 10 Ionawr cydymdeimlwyd gyda theulu y diweddar June Williams, Esgergoch, Ffarmers, aelod teyrngar i Frondeifi ac yn ffyddlon yn Urdd y Benywod. Bu’r angladd ym Mrondeifi ar 5 Ionawr gyda’r Parch Goronwy Evans a’r Parch Cen Llwyd yn gwasanaethu a Margaret Jones, Glanhelen, wrth yr organ.Ar yr un Sul penodwyd swyddogion newydd i ddilyn Meinir a Wyn Jones, Hendai. Diolchwyd i’r ddau am eu gwaith graenus fel trysoryddion y capel. Yn eu dilyn fydd Meleri Jones, Islwyn, Stryd y Bont, Llanbed; Llinos Jones, Heol Dewi, Aberystwyth a Hywel Roderick, Cwmann. Swyddogion y Fynwent fydd Elgan Jones, Coedmore Hall, Gareth Russell, Coedeiddig gydag un arall i gynorthwyo.Bu Eryl Jones yn swyddog y wasg am 35 mlynedd. Diolchwyd iddi am ei gwasanaeth hir a chanmoladwy. Cyflwynwyd iddi lun o Brondeifi o waith yr arlunydd Eirwen Griffiths wedi ei fframio gan ei phriod Dan Griffiths, ac oddi tano yr englyn canlynol gan y Prifardd Idris Reynolds:ErylYn hael iawn, a chalon lân -Bu Eryl yn barod ei chyfran.Am fod hi’n rhan o’i hanianI hel mwy na’r perlau mân.Ioan Wyn Evans, Caerfyrddin fydd yn dilyn Eryl fel swyddog y wasg.Trefn y Suliau nesaf: 24 Ionawr, 11.15yb (Festri), Gareth Morgan, Abergwili; 31 Ionawr, 10yb (Capel) Ioan Wyn Evans, Caerfyrddin.Ysgol Sul: bob Sul am 10yb.