Merched y Wawr

CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf Merched y Wawr yn 2016 ar nos Lun, 11 Ionawr, yn Neuadd Lisburne oherwydd diffyg gwres a golau yn festri Capel Afan, lle rydym yn cwrdd fel arfer. Y pwnc cyntaf a godwyd oedd y swm a gasglwyd wrth ganu carolau. Mae nifer ohonom yn mynd o gwmpas yr ardal cyn y Nadolig bob blwyddyn, â’r elusen a ddewiswyd ei chefnogi y tro hwn oedd ‘Trais yn y cartref’. Casglw-yd £680, a dymunwn ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd am eu haelioni.Yna bwriwyd ymlaen â gweithgaredd y noson, sef Gyrfa Chwilen, â phawb wedi eu rhannu’n dimau o bedwar, ar wahân i un tîm o dri, cychwynnodd yr ornest. Cafwyd cryn dipyn o floeddio wrth i rai ennill y rhifau angenrheidiol ar y dîs, a siom eraill wrth fethu, ond roedd popeth mewn awyrgylch gyfeillgar a hwyliog, yn enwedig gan fod un o’r aelodau yn rhannu siocledi â phawb! Wendy Crockett fu’n cloriannu’r sgoriau ar ddiwedd y chwe gêm ac yn dyfarnu pwy oedd wedi cael y sgôr uchaf, ond roedd dau aelod wedi dod i’r brig. Penderfynwyd fod mantais ychwanegol gan yr aelod oedd yn un o’r tîm o dri ac felly cytunwyd i roi’r wobr am y sgôr gorau i’r aelod arall, Angharad Morgan, y wobr am chwilen artistig i Gill Williams, gyda sylw arbennig i chwilen Casi Williams oedd yn codi’r awydd i roi cwtsh iddo.Dros baned a bisgedi trafodwyd ein digwyddiad nesaf, sef cinio yn y Con-rah ar 23 Ionawr a threfniadau ar gyfer y Cawl a Chân i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, cyn troi tua thre.