Cawl a Chân

ROEDD Neuadd Lisburne dan ei sang ar nos Sadwrn, 27 Chwefror, ar gyfer noson Cawl a Chân i ddathlu Gwyl ein Nawddsant Dewi. Trefnwyd y noson gan aelodau Merched y Wawr Llanafan, a fu wrthi’n ddiwyd trwy’r prynhawn yn paratoi’r wledd ac yn addurno’r byrddau a’r neuadd.

Yn dilyn y wledd i’r stumog, roedd pawb yn edrych ymlaen at yr adloniant.

Gwahoddwyd Meibion y Mynydd, côr o ardal Ponterwyd, i’n difyrru eleni, a chan ei fod yn gôr lleol roedd croeso brwd i’w haelodau ynghyd â’r arweinydd, Carol Jones, a’r cyfeilydd Susan Pugh.

Yn addas iawn, ‘Cân cyflwyno’r côr’ oedd y datganiad cyntaf, ac fe’i dilynwyd gan wahoddiad i ‘Dewch i mewn’. Cafwyd dwy gân gyfar-wydd i ddilyn, Calon Lân a Lleucu Llwyd, cyn i’r dynion ddiflannu ac yn eu lle ymddangosodd dwy ferch olygus, smart – yn eu tyb hwy, ta beth – sef Annie a Fanny, yn brolio eu rhinweddau ar gân.

Roedd cymeradwyaeth y dorf yn fyddarol, a’r chwerthin byrlymus yn atsain trwy’r lle.

Gadawsom Gymru yn y ddwy gân nesaf, Rownd yr Horn ac American Trilogy cyn dychwelyd adref gyda’r ffefryn hwyliog Moliannwn.

Gwelwyd enghraifft o allu amryddawn y côr gyda sgets arall, y tro hwn datganiad hynod ddoniol am ddiwrnod ym mart Pontarfynach a ddangosodd fod y côr hwn yn adnabod ei gynulleidfa.

Ar ôl yr holl ddifyrrwch roedd hi’n bryd i dawelu’r dorf gyda O Nefol Addfwyn Oen a chân boblogaidd y diweddar Ryan Davies, Ti a Dy Ddoniau.

I gloi’r rhaglen mwynhawyd Sefwch yn Llo-nydd, Anthem a pherfformiad hwyliog o Sosban Fach.Cyn dod â’r noson i ben roedd un digwyddiad pellach, a gwelwyd pawb yn twrio i’w pocedi a’u bagiau am y tocyn a fyddai, gobeithid, yn ennill un o’r gwobrau raffl.

Roedd hi wedi bod yn noson wefreiddiol, a chyn canu’r anthem genedlaethol, diolchodd Glenda Davies i’r gynulleidfa, nid yn unig y rheini sy’n cefnogi’r digwyddiad mor ffyddlon bob blwyddyn, ond hefyd yr ambell i wyneb newydd a fentrodd atom eleni, ac roedd diolch arbennig i Gôr Meibion y Mynydd.

Gwerthfawrogwyd eu parodrwydd i ddod i ddathlu gyda ni ac am baratoi rhaglen mor amrywiol a difyr. Mae’r côr wedi ennill carfan newydd o edmygwyr yn dilyn y noson, mae’n siwr!