Church Services

SUNDAY, 29 May: United Service at Bangor Teifi Church.Friday, 3 June: Coffee morning at Llandysul Church Hall from 10.30am to 11.30am. Proceeds go to Christian Aid.Every Wednesday there is Com-munion at 10.30am at Llandysul Church.

Cymanfa Ganu

CYNHALIWYD Cymanfa Ganu Annibynwyr Cylch Llandysul yng Nghapel Horeb ddydd Sul, 15 Mai, o dan ofal Eglwys Seion.Yr arweinyddes wadd oedd Helen Evans, Hermon a Bryn Iwan. Yr organyddion oedd Beryl Jones a Wendy Organ a hwy fu’n gyfrifol am y rihyrsals hefyd.Llywyddwyd oedfa’r bore ac oedfa’r nos gan y Parch Guto Prys ap Gwynfor.Roedd plant Ysgol Sul Seion yn gyfrifol am oedfa’r bore a chafwyd sawl eitem swynol a diddorol ganddynt. Cyfeiliwyd iddynt gan Pauline Jones.Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Heledd Jones a Crisial Llywelyn.Penderfynodd y plant y dylai casgliad y bore gael ei drosglwyddo i goffrau Cymorth Cristnogol.Braf oedd cael cinio yn y festri am hanner dydd, â’r bwyd wedi ei baratoi gan ‘Cegin Fach y Wlad’. Roedd hi’n gyfle da i gymdeithasu a chael clonc. Cafwyd oedfa fendithiol o dan arweiniad medrus Helen Evans yn yr hwyr ac roedd y canu mewn pedwar llais yn arbennig.Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r gymanfa ac i’r cantorion o gylch-oedd eraill ddaeth i gynorthwyo gyda’r canu.Mae pwyllgor y gymanfa ac aelodau’r capeli yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn.

Gwyl Gorawl Emlyn

DDYDD Sul, 19 Mehefin: 10.30yb a 6yh, Castellnewydd Emlyn.BingoAR NOS Iau, 26 Mai, yng Nghwesty’r Porth, cynhelir noson bingo i godi arian tuag at dîm pysgota iau cenedlaethol Cymru.Mi fydd y tîm yn mynd allan i’r Iwerddon ar gyfer y cystadleuaeth genedlaethol ar 3 Awst.Ac mae angen i bob aelod o’r tîm codi swm sylweddol o arian i dalu am y daith, ac hefyd am offer pysgota.Dau aelod lleol o’r tîm sydd yn cynnal y noson, sef Sioned a Jac.Dewch yn llu am 7yh er mwyn cefnogu pysgotwyr ifanc yma.