Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd arddangosfa o hen luniau ac eitemau o ddiddordeb a drefnwyd gan Bwyllgor Treftadaeth Plwyf Llanengan. Eleni oedd y 12fed arddangosfa i’r pwyllgor gweithgar yma ei drefnu, â’r thema eleni oedd ‘Gwaith Plwm a Chwaraeon Plwyf Llanengan’. Roedd Neuadd Abersoch yn llawn o hen luniau wedi eu gosod ar fyrddau arddangos ac amryw o arteffactau difyr i’w gweld hefyd. Cafwyd cyfle i fwynhau sgwrs gan Wendy Lloyd Jones yn olrhain hanes dau wr ifanc o ardal Abersoch yn wreiddiol, a aeth i fyw a gweithio i America tua 1820. Daeth â llythyrau yn dyddio’n ôl i’r cyfnod, wedi eu hysgrifennu gan y ddau ddyn ifanc at eu rhieni ac mae Mrs Jones wedi bod yn brysur yn dilyn llinell teulu’r ddau wr a fentrodd i ochr arall y byd. Mae wedi cael y fraint o gyfarfod perthnasau iddynt o’r America yn ystod ymweliad â Chymru. Cafwyd sgwrs ffeithiol a difyr, gyda’r gynulleidfa yn y neuadd yn mwynhau’n arw ac yn llawn gwerthfawrogiad o’r gwaith trylwyr y gwnaeth Mrs Jones ac roedd yna luniau a chopïau o’r llythyrau i’w gweld ar y noson. Yn y llun gwelir Wendy Lloyd Jones (dde) oedd wedi darparu’r sgwrs, hefyd tair o aelodau Pwyllgor Treftadaeth Plwyf Llanengan, o’r chwith: Anna Jones, Janet Roberts a Maggie RobertsPWLLHELINEFYNContact
Llanengan







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.