Merched y Wawr
CAWSOM wahoddiad i ymuno â changen Llanilar ar y dydd olaf o fis Chwefror – dydd blwyddyn naid.Mae bob amser yn bleser i gwrdd â chwiorydd o ganghennau eraill i’n hatgyfnerthu ac i deimlo ein bod yn perthyn i fudiad cenedlaethol pwysig a hwyliog.I‘n diddanu daeth Dafydd Jones o Ystrad Meurig a Neli Jones o’r Bont.Y ddau bartner dawnus yn rhoi i ni ddetholiad hapus o ganeuon ac adroddiadau doniol.
Plethwyd y cyfan yn noson lawen draddodiadol, a’r swper yn ben blasus ar y mwdwl. Yn ôl ein harfer i ddathlu Dydd Gwyl Dewi treuliwyd noson arall yng nghwmni aelodau Cymdeithas yr Hebog yn Llety Parc.
Cwmnïaeth hyfryd ar ddydd ein nawdd sant.Mae’r gaeaf yn prysur ddiflannu gyda rhaglen mor ddiddorol.
Tipyn o grwydro fydd hi nawr gyda’r haul yn dechre cynhesu.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.