Cwrdd Cystadleuol Tabor

AR NOS Iau, 11 Chwefror cynhaliwyd Cwrdd Cystadleuol Tabor yn festri’r capel. Neli Jones, Glanrhyd, Ponrthydfendigaid, oedd y beirniad cerdd gyda Menna Jones, Tynfron, Ffair Rhos yn beirniadu’r llên a’i gwr John Jones yn beirniadu’r adrodd. Bu Mair Jones, Trem-y-Môr yn beirniadu’r coginio a’r gwaith llaw, gyda’i gwr John Jones yng ngofal y gwaith coed, metel a thechnoleg. Arweinyddion y noson oedd Derrick Davies ac Ifor Morgan a diolch iddynt am arwain mor hwylus. Diolch hefyd i Morris Hopkins am gyflwyno’r beirniaid.Llywydd y noson oedd Gwyneth Davies, Maes yr Haf, Blaenpennal. Diolch yn arbennig iddi am ei chyfraniad hael tuag at yr achos. Diolch i Mary Morgan am ei chyflwyno ac i’r Parch N Bee am wneud y diolchiadau. Rhoddwyd y rhubanau eleni gan Deulu Tandy, Delfryn. Maldwyn Morgan ac Islwyn Jones oedd wrth y drws.Dyma ganlyniadau’r noson: Cerddoriaeth: Unawd Ysgol Feithrin: Eirlys Rees; Unawd Derbyn a Meithrin: Erin Baxter a Gwenno Jones; Unawd Bl 1 a 2: Osian Jewell; Unawd Bl 3 a 4: Gwenllian Evans; Unawd Bl 5 a 6: Glesni Morris; Parti Unsain dan 12: Parti’r Merched; Deuawd dan 18: Nia a Glesni; Cân Bop dan 18: Plant Bach; Parti Unllais dros 18: Parti’r Bechgyn.Offerynnol: Plant Cynradd Unrhyw Offeryn: Glesni Morris; Plant Cynradd Unawd Piano: Glesni Morris; Parti Recorders: Parti Bechgyn Bl.5 a 6; Ensemble Offerynnol: Bois Brass Bril a’r Ffliwtastics; Unrhyw Offeryn dan 18: Amy Yarwood. Llefaru: Ysgol Feithrin: Eirlys Rees; Derbyn a Meithrin: Teifi Lewis; Bl 1 a 2: Jac Lewis; Bl 3 a 4: Nia W Lewis; Bl 5 a 6: Glesni Morris; Parti Llefaru: Parti’r Merched.Llên: Brawddeg ‘Horeb’: Mrs D Lewis; Brysneges Llythyren ‘D’: Meinir Jones; Limrig: Derrick Davies.Arlunio: Plant Ysgol Feithrin: Tudur Jones; Dosbarth Derbyn: Siencyn Davies; Bl 1 a 2: Ella Evans; Bl 3 a 4: Sian Cleaton; Bl 5 a 6: Lewis Evans. Ysgrifennu Creadigol, Rhyddiaeth: Bl 1 a 2: Ella Evans; Bl 3 a 4: Megan Lloyd; Bl 5 a 6: Glesni Morris; Bl 10 ac 11: Manon Jones.Barddoniaeth: Bl 1 a 2: Cynan Lewis; Bl 3 a 4: Rhys Constantine; Bl 5 a 6: Josh Pugh-Jones; Bl 10 ac 11: Manon Jones.Llawysgrifen: Derbyn a Meithrin: Erin Baxter; Bl 1 a 2: Rhys Lewis; Bl 3 a 4: Nia W Lewis; Bl 5 a 6: Glesni Morris.Coginio: Cacen Ffrwythau (Rysait Arbennig): Carol Hopkins; 4 Pice Bach: C Evans; Bara Brith: Mrs M Williams; Ysgol Gynradd (Addurno Cracer): Glesni Morris; Dan 18 (Fflapjacs): Gwenllian Evans.Gwaith Llaw: Carden Penblwydd: Glenys Morris; Gwau Oedran Hyn (Sgarff): Mrs R Starr; Gwau/Gwnïo dan 18 (Clustog Pin): Enfys Morris; Plant Ysgol Gynradd (Addurno Pot Blodyn): Lisa Rees. Gwaith Coed: Dan 18: Megan Lloyd. Technoleg - Plant Ysgol Gynradd (Ffotograff ‘Perthyn’): Liam Scott; Dan 18 oed (Ffotograff ‘Dathlu’): Rhys Lewis. Agored (Ffotograff ‘Yr Ardal Leol’): Meinir Lewis.

Clwb Croeso

THE SPEAKER was Cllr Rowland Rees-Evans who gave a brief insight into his background and his role as a county councillor representing Llan-rhystud ward. His talk was followed by a lively discussion covering many topics, such as education, refuse collections, wind turbines and the proposed rail link from Aberystwyth to Carmarthen.Next month’s speaker will be Cyril Baker, from The Jewellery House, Aberystwyth. Everyone is welcome.