Merched y Wawr
AR 9 Mai aeth 20 o Ferched y Wawr, sef pob aelod o’r gangen, i ymweld â Chastell Aberteifi. Trefnwyr y noson oedd Ann Ellis ac Ellen Rees.Cawsom ein cyfarch wrth y drws gan Non Lewis a hi fu’n ein tywys o amgylch a rhoi hanes y lle i ni.Oherwydd y glaw trwm y tu allan, bu’n rhaid cyfyngu’n hymweliad i’r tu mewn yn unig, er i ni gael ein cyfeirio i edrych ar rai pethau diddorol tu allan drwy’r ffenestri. Roedd gan Non wybodaeth fanwl am y castell o’r dechrau yn y 12fed ganrif, trwy’r brwydro, y newid perchnogaeth gyson rhwng y Cymry a’r Normaniaid, y dymchwel a’r ail-godi, y teuluoedd bonedd fu’n byw ynddo, a’r addasu, ymlaen at gyfnod y perchennog olaf, sef Miss Wood, a’r dadfeilio trychine-bus pan aeth y lle a’i ben iddo. Ond daeth tro ar fyd eto oherwydd dycnwch ymdrechion lleol, a grant sylweddol, llwyddwyd i atgyweirio ac adnewyddu’r ty ac ail-godi muriau ac adeiladu estyniad modern i fod yn fwyty safonol fydd yn dod ag incwm i helpu cynnal y safle.Ni allem fod wedi cael gwell tyw-ysydd gan fod gwybodaeth Non yn ddi-ben-draw a’i dull o’i gyflwyno yn sicrhau bod pob un yn medru ei chly-wed. Diolchwyd iddi gan Ellen Rees. Draw â ni wedyn i’r bwyty am swper, a gwnaed y diolchiadau yno gan Ann Ellis.Cafwyd cyfarfod yn dilyn y bwyd ac etholwyd swyddogion ar gyfer 2016/17: cydlynydd, Carol Tandy; cofnodydd, Wendy Lloyd; trysorydd, Delyth Lewis; gohebyddion y wasg, Delyth Lewis a Mary Williams; dosbarthwraig Y Wawr, Mary Williams. Llongyfarchwyd Buddug Jones ar ddod yn famgu unwaith eto, gydag wyr yn Brynchwyth.



.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.