Merched y Wawr
CAFWYD noson hwyliog iawn yng nghyfarfod mis Ionawr yng nghwmni John o Fryncroes yn sôn am sut yr oedd wedi dechrau cadw gwenyn a chynyrchu mêl. Roedd pawb wedi mwynhau’r noson a chafwyd y diolchiadau gan Maggie. Gwnaethpwyd y te gan Doris, Gwyneth a Catrin.Llongyfarchiadau i David a Bethan, Church View, ar enedigaeth merch fach Maia Elen; ac i Tecwyn a Catrin, Preswylfa, ar ddod yn hen-daid a nain – ganwyd mab bach Cynan Llywelyn i Alaw a Gareth yn Nhremadog.Gwellhad buan i Derek, Hen Stad, sydd wedi bod yn yr ysbyty. Cydymdeimlwn â theulu Tir Bach yn eu profedigaeth o golli ewythr William yn Botwnnog. Llongyfarchiadau i Wmffra a Bet, Y Ddôl ar ddathlu eu priodas arian ar 26 Ionawr. Gobeitho iddynt fwyn-hau eu hunain yng ngwesty Tresgawen, Ynys Môn gyda Bet yn cael dathlu yn ei hen gynefin.Dechrau mis Ionawr aeth dau dîm o Llaniestyn i Glas-fryn i fowlio deg. Daeth un tîm, sef Nia, Bod Hyfryd; Nia, Ty Newydd; Nia, Madryn Isaf; Carys, Cae Cauad; Mair, Gwelfor; a Marnel, Ty’n Simdde yn fuddugol Llongyfarchiadau i Nia, Bod Hyfryd, a gafodd y sgôr uchaf ar y noson sef 109. Byddant yn mynd ymlaen nawr i’r rownd nesaf.Bydd bingo a chrempog nos Fawrth, 15 Mawrth, am 7.30yh. Croeso cynnes i bawb.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.