CYNHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Capel y Groes ar ddydd Mercher, 4 Ebrill.

Roedd yn eisteddfod lwyddiannus iawn o safon uchel yn ôl y beirniaid eleni, sef Davinia Davies, Bancffosfelen (cerdd); Terwyn Thomas, Llandudoch (llên a llefaru); a Geraint a Molly Blayney, Pontsian (celf).

Cyfeilydd oedd Lynne James, Castellnewydd Emlyn a llywydd y dydd oedd Doreen Sisto, Abergorlech.

Enillydd y gadair oedd Sioned Medi Howells, Pantglas, New Inn, Pencader.

Roedd y gadair a wnaed gan Aled Dafis, Caerwedros, yn rhoddedig gan deulu Tyllwyd, Maestir.