Cynhaliwyd cwrs undydd ar gyfer dysgwyr y Gymraeg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli yn ddiweddar. Trefnir y cwrs yn flynyddol gan Gyrsiau Cymraeg Prifysgol Bangor. Daeth 66 o bobl yno i fwynhau gwersi dan ofal tiwtoriaid cyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor, ond elfen bwysig iawn o’r diwrnod yw’r cyfle a gaiff y dysgwyr i sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg gydag aelodau Merched y Wawr Dwyfor. Yn ogystal â bod ar gael i sgwrsio, mae aelodau Merched y Wawr yn darparu paned a chacennau ar gyfer y dysgwyr drwy gydol y dydd. Cawsom ddiwrnod prysur a llawn hwyl ac roedd hi’n braf gweld cymaint o ddysgwyr yma. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu dosbarthiadau dydd neu nos yn wythnosol ac mae diwrnod fel hyn yn rhoi cyfle iddynt ymarfer eu Cymraeg. Roedd Llifon Jones, Llên Llyn wedi dod draw hefyd gyda stondin lyfrau.Rhaid diolch i aelodau Merched y Wawr am eu cefnogaeth yn flynyddol i’r cwrs. Daeth bron i 30 ohonynt atom yn ystod y dydd ac mae eu cyfraniad i’r diwrnod yn un gwerthfawr iawn.Y digwyddiad nesa, ar y cyd â thiwtoriaid Coleg Meirion-Dwyfor, fydd sesiwn siarad dros banad ym Mhlas Heli, Pwllheli, ddydd Sadwrn, 20 Chwefror rhwng 11yb a 12yp. Croeso i bawb, yn ddysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf.

Am fwy o fanylion am gyrsiau Cymraeg I Oedolion, cysylltwch gyda Bethan Glyn: [email protected] neu 01248 388083.

Gwahoddwyd dysgwyr i fwynhau paned a chacen wrth siarad Cymraeg, ac yn gyfrifol am y stondin yn y pnawn oedd Laura Wyn Roberts, Ann Evans, Anne Hughes a Nancy Saville o gangen Morfa NefynContact