Dathlwyd Gŵyl Ddewi gyda noson gawl hwyliog yn Tamed Da, un o fwytai’r coleg, yng nghwmni Doreen Lewis, y gantores fytholwyrdd o Ddyfryn Aeron sydd wedi mwynhau gyrfa hir a disglair ym myd canu gwlad.

Anodd yw credu iddi ryddhau ei record gyntaf, Y Storm, pan ond yn 16 oed yn 1969. Daeth yn wyneb cyfarwydd yn ystod y blynyddoedd wedyn gan ymddangos ar lwyfannau Cymru benbaladr ac ar deledu.

Hi yw’r unig ferch yn hanes canu pop Cymraeg a dderbyniodd Ddisg Aur am ei chyfraniad oes i adloniant Cymru. Bu‘n teithio ar hyd a lled y wlad am ddeugain mlynedd yn perfformio, ac er y prysurdeb ar y fferm, mae hi’n dal i fwynhau cyfansoddi a diddanu.

Onid ydym yn gyfarwydd iawn â’i chaneuon fel Nans o’r Glyn, Rhowch i mi Ganu Gwlad, Cae Blodau Menyn, Y Gŵr Drwg ac yn y blaen? Roedd ei chlywed yn canu ei gweithiau yn dwyn llawer o atgofion. Bu llawer o chwerthin a bwrlwm wrth glywed ei gwirioneddau a daeth cyfle am hwyl wrth inni gyd-ganu.

Dyfynnodd Mereid James o gerdd amserol gan Dic Jones yn nodi bod gennym le i ddiolch am Ddewi Sant ac am gael cael cyfle i ddod at ein gilydd.

Byddwn ar grwydr eto’r mis nesaf yn Adran Dysgu Arlwyo Coleg Ceredigion gydag Aled Morris yn rhoi arddangosfa coginio.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]