Er gwaethaf y tywydd yn ddiweddar, daeth criw bach selog o aelodau cangen Merched y Wawr Pwllheli at ei gilydd i ‘Winllan Lloyd’ i codi sbwriel oedd wedi cael eu gadael yno gan aelodau’r cyhoedd.

Roedd y gangen yno i cynorthwyo Meirwen Lloyd, y Llywydd Cenedlaethol, gyda’i prosiect yn ystod ei chyfnod fel llywydd.

Mae wedi rhoi her i’w hun a’i chyd-aelodau i fynd allan i’w cymunedau lleol a chasglu sbwriel a phlastig.

Mae eisiau casglu cyfanswm o 6,000 o fagiau sbwriel i gyd, felly mae gan y merched waith casglu.

Yn y llun gwelir aelodau Merched y Wawr gyda Jonathan Gwyn Neale, swyddog Trefi Taclus gyda Cyngor Gwynedd, oedd yn bresenol i rhoi benthyg offer a chynnig ychydig o’i gwybodaeth beth i’w neud a beth ddim i’w wneud wrth casglu’r sbwriel.

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr