Capel Soar

CYFARFU y Cylch Trafod yn festri Capel Soar nos Fawrth, 2 Chwefror yng nghwmni Dave Roberts, Trefor gyda’r testun, Rhai o Emynau Gwilym Hiraethog sydd yn Caneuon Ffydd. Cafwyd trafodaeth ardderchog.Fore Sul, 7 Chwefror am 10.30yb cafwyd oedfa ar y cyd â’r Ysgol Sul yng ngofal Janet Hughes a thema’r gwasanaeth oedd Hanes Dewi Sant a Gwneud y Pethau Bychain.Am 5yh cafwyd gwasanaeth gan pump o aelodau’r capel, sef Dan, Carys, Jeanete ac Ann. Roedd Janet Hughes wrth yr organ.Ladies Club THE ladies enjoyed an informative talk and demonstration from Menna Jones about card-making at their meeting.Menna explained how she decides on designs and develops ideas. People can contact her through Facebook to discuss and order bespoke designs to suit their occasion, including stationery for weddings and special events. The next event will be the St David’s Day dinner on 3 March at the Nanhoron Hotel. Meet at 7pm to eat at 7.30pm.

Merched y Wawr

CYFARFU Merched y Wawr yng Ngwesty Nanhoron nos Wener a chafwyd amser difyr gyda’r Dr Daniel Evans, Tynllys yn edrych ar hen ffilmiau a dynnwyd tua’r ‘60au yn ardal Nefyn. Nos Lun aeth rhai aelodau i Fynytho i ddathlu Gwyl Ddewi gyda’r gangen yno ac chafwyd hefyd gwmni aelodau cangen Pistyll. Cafwyd swper blasus a sgwrs ddifyr iawn gan John Pierce Jones. Bydd noson arall i ddathlu Gwyl Ddewi ar y cyd â changen Morfa Nefyn nos Wener, 11 Mawrth yng Ngwesty Nanoron; aelodau Nefyn i roi eu henwau a dewis bwyd i Dilys erbyn diwedd y mis.

O Ddrws i Ddrws

THE BUS project, which was initially run for three months, will continue due to its success.The service runs from the Llyn tto arrive at Ysbyty Gwynedd convenient for visiting time of 1.30pm to 2.30pm every Monday, Wednesday and Friday.It costs £1 each way and picks up from villages around Llyn. To book, call 01758 721777 or e-mail [email protected]

Y Gymdeithas

CAFWYD cwmni Robert Morris, Penygroes yng nghyfarfod diwethaf Y Gymdeithas a gynhaliwyd nos Fawrth, 9 Chwefror gan roi hanes rhai o hen draddodiadau Cymru efo’r testun Gwyl a Hwyl.Cafwyd noson arbennig a difyr iawn a rhoddwyd y diolchoadau gan Gwen.Ddydd Sul, 14 Chwefror am 10yb a 5yh cafwyd gwasanaeth gan y Parch Dewi Morris, Porthmadog.Arwyn Owen Hughes oedd wrth yr organ a llywyddwyd gan Gwyn Hughes a Dan Owen.Ddydd Sul, 21 Chwefror am 10yb a 5yh: Parch Arthur M Roberts, Pwllheli, oedd yn cynnal y ddau wasanaeth. Beti Wyn Jones oedd wrth yr organ i’r ddau wasanaeth a llywyddwyd gan Gwyn Hughes a Dan Owen.