YR wythnos hon cyhoeddir llyfr newydd i blant rhwng 3 a 7 oed, Y Seren Ioga, gan Leisa Mererid (Y Lolfa). Dyma’r drydedd gyfrol ioga i blant gan dîm hynod lwyddiannus, gyda’r awdur Leisa Merererid yn ysgrifennu’r stori, a Cara Davies yn gyfrifol am y luniau hudolus.

Meddai Leisa, sydd yn gweithio fel athrawes ioga a meddylgarwch: “Taith bywyd a’r profiad o fod yn fam sydd wedi ysbrydoli’r llyfr yma.

“Mae stori Y Seren Ioga yn dilyn taith seren ddisglair. Un noson, mae’r seren yn cael ei ysgubo ymaith gan storm annisgwyl.

“Mae’n profi ofn, unigrwydd a heriau lu ond mae hefyd yn profi cyfeillgarwch, tosturi a charedigrwydd

“Er bod profiadau anodd yn gallu ein newid roeddwn eisiau pwysleisio nad ydynt yn lleihau ein gwerth ond yn hytrach yn ein helpu i ddarganfod cryfder newydd. Erbyn diwedd y stori, nid yw’r seren yr un fath ag yr oedd ar y dechrau – ond mae’n disgleirio mewn ffordd ddyfnach a mwy ystyrlon.”

Cyhoeddwyd Y Goeden Ioga yn 2020 a Y Wariar Bach yn 2022. Mae’r tair cyfrol yn cyflwyno ymarferion siapiau ioga i gyd-fynd gyda’r stori, ac yn Y Seren Ioga, cawn ein cyflwyno i symudiadau gellir eu gwneud gan blant ifanc, gydag enwau sy’n codi o’r stori fel ‘cranc’, ‘octapws’ a ‘gwylan yn hedfan’.

Mae Leisa yn credu’n gryf mewn perthnasedd ymarfer ioga gyda phlant er mwyn elwa o’r buddion mae’r ymarferion yn cynnig.

Meddai: “Trwy fy mhrofiad o arwain sesiynau yoga mewn ysgolion, rwyf wedi profi pa mor drawsnewidiol y gall fod.

“Dro ar ôl tro, mae athrawon wedi gwneud sylwadau am blant a’u synnodd yn ystod sesiynau ioga – plant sy’n aml yn cael trafferth o fewn amgylchedd dosbarth traddodiadol, sy’n gweld eistedd yn llonydd, darllen neu ysgrifennu’n heriol. Mewn sesiynau yoga, yn aml iawn, dyma’r union blant sy’n cael cyfle i ddisgleirio.”