WEDI trigain mlynedd o orwedd mewn bocs yn yr atic mae llawysgrif sy’n cofnodi un o brif grefftau y Gymru wledig ar fin ei chyhoeddi’n llyfr.

Ganol yr ugeinfed ganrif roedd D Matthew Williams yn enw cyfarwydd ym myd cyhoeddus y Gymraeg. Er yn wyddonydd ac addysgwr blaengar roedd yn fwy adnabyddus am y toreth o ddramâu a luniodd ar gyfer y cwmnϊau drama a frithai Cymru’r cyfnod. Roedd hefyd yn frawd i’r Athro Griffith John Williams, yr ysgolhaig ac un o sylfaenwyr Plaid Cymru.

Gof ym mhentre Cellan, Ceredigion, oedd ei dad, John Williams. Yn yr 1960au, ag yntau newydd ymddeol o’i waith yn Arolygydd Ysgolion, aeth Matthew Williams ati i gofnodi blwyddyn waith ei dad, gynt gan ddisgrifio fesul tymor anghenion a thechnegau’r hen, hen grefft hon oedd yn prysur ddiflannu o’n cymdogaethau.

Wedi cwblhau’r llawysgrif aeth ati i chwilio lluniau pwrpasol. Ysywaeth yn 1970, cyn iddo gywain y cyfan ynghyd, bu farw’n ddisymwth â’r llyfr heb ei gyhoeddi.

Elenid Jones
(Wes Glei)

Medd Elenid Jones, merch Matthew Williams: “Ro’n i’n gw’bod am y llyfr roedd e’n bwriadu’i gyhoeddi a bues i’n ofalus o’r llawysgrif wrth i droeon bywyd fy nhywys o wlad i wlad ac o dŷ i dŷ. Ond ym mhen draw drar neu waelod bocs y buodd ar hyd y blynyddoedd.”

Cyfnod covid sydd i gyfrif i’r cofnod pwysig hwn weld olau dydd o’r diwedd. Medd Elenid: “A phawb yn gaeth i’r tŷ mi gofiais am y llawysgrif. Profiad cyfareddol oedd ei darllen a sylweddoli ei bod yn gofnod mor gyfoethog o rôl ganolog y gof a’i efail o fewn ffordd o fyw y Gymru a fu.”

Yr Hen Efail
Yr Hen Efail (Wes Glei)

Ar unwaith, aeth Elenid ati i droi’r llawysgrif yn deipysgrif, a’r deipysgrif yn llyfr.

“Roedd sylweddoli cyn lleied o sylw a roddwyd i’r grefft hynod a hanesyddol hon yn sbardun i sicrhau fod gwaith fy nhad yn cael ei gyhoeddi o’r diwedd,” medd Elenid.

Cyhoeddir Yr Hen Efail gan Elenid ei hunan a defnyddir pob dime goch o’r gwerthiant i gefnogi gwaith dyngarol Cymorth Cristnogol yn Gaza.

Lawnsir Yr Hen Efail yng Nghanolfan Creuddyn, Llanbedr-Pont-Steffan nos Fawrth, 17 Mawrth mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Llambed.

Gellir prynu’r gyfrol (pris £8) naill ai mewn siopau yma a thraw neu wrth gysylltu ag Elenid Jones ([email protected]) neu Euros Lewis ([email protected]).