GYDAG etholiad Senedd dyngedfennol ar y gorwel, bydd gwasanaeth Newyddion S4C yn cwestiynu, craffu ac yn torri’r newyddion diweddaraf.
Bydd yr arlwy yn cynnwys map rhyngweithiol o’r etholaethau, darpariaeth newydd ar gyfer fideos fertigol a ffrwd byw ar ddiwrnod yr etholiad a fydd yn crynhoi’r holl ganlyniadau ar ap a gwefan Newyddion S4C.
Penododd S4C Jacob Morris fel gohebydd gwleidyddol-yn-gyntaf ym mis Medi, mewn partneriaeth â BBC Cymru, a fydd yn teithio ar draws Cymru i ddod â’r newyddion diweddaraf ar lwyfannau digidol Newyddion S4C.
Mae modd dilyn Newyddion S4C ar Facebook, Instagram, TikTok, Threads, Bluesky ac X.
Ar deledu, bydd rhaglen Newyddion S4C yn ymweld â phob etholaeth cyn diwrnod yr etholiad, ac mae’r daith honno o gwmpas Cymru eisoes wedi dechrau.
Eleni hefyd, am y tro cyntaf, bydd S4C a’r BBC yn cydweithio ar ddadl yr arweinwyr a fydd yn darlledu’n fyw ar S4C ar 23 Ebrill, yn ogystal â phlatfformau digidol S4C a’r BBC ac ar BBC Radio Cymru.
Bydd cyfres arbennig o Y Byd yn ei Le yn craffu’n fanwl ar bolisïau pob un o’r prif bleidiau.
Bydd Pawb a’i Farn yn darlledu rhaglen arbennig ar 19 Mawrth, mewn partneriaeth â’r Urdd, fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol holi’r gwleidyddion.
Gyda'r oed pleidleisio wedi gostwng i 16 adeg yr Etholiad Senedd ddiwethaf, bydd newyddiadurwyr Hansh Dim Sbin yn rhoi'r chwyddwydr ar y straeon sydd o bwys i bobl ifanc, a bydd Newyddion Ni hefyd yn addysgu ac yn dod â’r ymgyrch yn fyw i blant.


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.