BYDD S4C yn darlledu fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice.
Mi fydd Y Llais yn cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios, ac yn cael ei ddarlledu yn 2025.
Bydd yn cynnwys y canwr opera rhyngwladol Syr Bryn Terfel fel un o’r pedwar hyfforddwr o wahanol gefndiroedd cerddorol fydd yn eistedd yn y cadeiriau mwyaf eiconig ar y teledu.

Fersiwn Gymraeg S4C yw’r 75ain addasiad o fformat gwreiddiol The Voice, sy’n golygu mai dyma’r brand sydd â’r fformat di-sgript mwyaf llwyddiannus yn y farchnad fyd-eang hyd yn hyn.
Ynghyd â’i chwe fersiwn spin-off, cafodd y fformat ITV Studios yma ei enwi gan K7 Media yn y mis ddiwethaf fel Masnachfraint y Flwyddyn, yn ogystal â’r fformat sydd â’r nifer fwyaf o fersiynau ar yr awyr yn 2023.
Fe fydd yna wyth pennod awr a hanner o hyd yn rhan o gyfres S4C.
Bydd y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau wrth i gantorion gorau’r genedl geisio creu argraff ar bedwar o artistiaid gorau Cymru.
Fe fydd y cystadleuwyr yn camu i’r llwyfan mewn ymgais i gael eu coroni yn enillydd y gyfres, gan sicrhau gwobr o gynllun mentora 12 mis o hyd sy’n cynnwys cyfle i berfformio ar raglenni S4C.
Bydd y gyfres yn cynnig adloniant i'r teulu cyfan gyda’r cyfan ar gael i'w gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.
Dywedodd Syr Bryn Terfel: “Mae’n wych bod Gwlad y Gân yn cael fersiwn arbennig ei hun o’r gyfres The Voice – pa ffordd well o ddarganfod y seren fawr nesaf?
“Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y wefan www.s4c.cymru/yllais.
"Dyma'r cyfle perffaith i wireddu eich breuddwyd, i berfformio ar S4C, ac i fod yn rhan o'r gyfres mwyaf cyffrous ar y teledu."
Bydd Y Llais yn cael ei gyflwyno gan gyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri.
Meddai Sian Eleri:
“Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gyflwyno un o sioeau mwya’r byd – sioe sy’n blatfform i ddarganfod a meithrin talent newydd.
“Mae croesawu’r sioe adre i Gymru gyda S4C yn brofiad gwirioneddol arbennig! Dwi methu aros i weld y cadeiriau enwog yn troi!"
Er mwyn cymryd rhan yn Y Llais rhaid cyflwyno ffurflen gais erbyn Mehefin 21ain, 2024 trwy ddilyn y ddolen yma: www.s4c.cymru/yllais
Bydd clyweliadau cychwynnol yn digwydd ar Orffennaf 12fed yng ngogledd Cymru ac ar Orffennaf 15fed yn ne Cymru.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.