MAE Dafydd Iwan yn dod i Ysgol Cribyn.

Dyna’r newyddion cyffrous wrth i’r ymgyrch gymunedol i gyd-brynu’r ysgol gyrraedd yr wythnos ola.

“Ma’ enw mawr yn hala neges o gefnogaeth ar yr adeg hon yn beth digon arferol – cyffredin, bron,” medd Alan Henson, cadeirydd pwyllgor llywio Cribyn.

“Ond dim hala neges fydd Dafydd. Fydd e ’ma gyda ni nos Sadwrn yn y parti mawr i ddathlu penllanw’r ymgyrch!”

Ers pump wythnos ma’ bobol Cribyn wedi bod yn annog unigolion, cymdeithasau a chwmniau Dyffryn Aeron a thu hwnt i gyd-gyfrannu tuag at sicrhau na fydd yr ysgol yn cael ei gwerthu ar y farchnad agored.

Y nod yw troi’r adeilad yn gartre fforddiadwy i deulu lleol ac yn ganolfan addysg a chymdeithas hyblyg, cysurus a byrlymus. “Yn ganolfan bwysig i’r Gymraeg a’n ffordd o fyw,” ychwanegodd Alan.

Wrth gadarnhau ei ymddangosiad nos Sadwrn dywedodd Dafydd Iwan: “Rhwng creu cartre i Gymry ifainc a photensial y ganolfan newydd i godi hyder a gwneud gwahaniaeth dwy’n gweld Ysgol Cribyn yn ddatblygiad pwysig i Gymreictod yr ardal gyfan.

“Ble bynnag ’da ni’n byw, os ’da ni’n credu bod dyfodol ein cymdogaethau Cymraeg yn bwysig yna ma’ dyfodol Ysgol Cribyn o bwys i ni un ac oll.”

Yn ogystal â bod yn gyffrous, mae Alan Henson yn ddiolchgar iawn i Dafydd am ei gefnogaeth.

“Criw bach y’n ni yng Nghribyn – lleiafrif falle – ond criw sydd ddim yn fodlon dilyn yr hen drefn o adael i bobol ariannog o bant feddiannu’n hasedau gore.

“Dyna pam, nos Sadwrn, nid ‘Y’n ni yma o hyd’ y’n ni am i Dafydd ganu ond ‘Y’n ni’n mynd i fod yma o hyd’. Drosodd a drosodd.”

Cynhelir Parti Cam Ola menter Ysgol Cribyn nos Sadwrn, 4 Mai – ddiwrnod cyn i’r ymgyrch brynu cyfranddaliadau gau, nos Sul 5 Mai.

Yn ogystal ag ymddangosiad Dafydd Iwan, mi fydd Siani Sionc yno i ddiddanu’r plant.

I borthi’r dathliad mi fydd fan pizza Tân y Ddraig, bar tafarn gymunedol y ‘Vale’ a chyfle a chymorth i brynu’r cyfranddaliadau holl bwysig hynny!