Mae S4C wedi cyhoeddi newid strategol sylweddol gyda’r llwyfan ffrydio YouTube.
Bydd y bartneriaeth yn gweld S4C yn gweithio gyda YouTube i lywio ei strategaeth ddigidol, gan ganolbwyntio ar dyfu cynulleidfaoedd a gwella’r ffyrdd o ddarganfod cynnwys Cymraeg ar y platfform.
Bydd y cydweithio yn rhoi gwell mewnwelediad i dueddiadau’r platfform ac ymddygiad cynulleidfaoedd, gan gefnogi nod S4C o gyrraedd mwy o wylwyr ar-lein.
Mae YouTube yn blatfform pwysig i S4C, gyda 1.1 miliwn awr o gynnwys S4C wedi ei wylio ar y platfform y llynedd, ac mae’n faes allweddol ar gyfer parhau i dyfu cynulleidfaoedd ar-lein.
Fel cam cyntaf, mae Newyddion S4C - gwasanaeth newyddion y darlledwr - yn lansio sianel YouTube, i ychwanegu at y ddarpariaeth newyddion a materion cyfoes ar drothwy etholiad Senedd Cymru fis Mai.
Bydd ffrydiau byw ar y sianel, gan ddechrau gyda Y Ddadl Fawr ar nos Iau 23 Ebrill lle bydd arweinwyr a chynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol mwyaf yn mynd benben â’i gilydd. Bydd rhaglen ganlyniadau’r etholiad hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw ar YouTube o 11yb ar ddydd Gwener 8 Mai tan y canlyniad olaf.
I dargedu cynulleidfaoedd YouTube, bydd cynnwys arbennig yn cael ei gomisiynu ar gyfer y sianel newyddion a materion cyfoes gan gynnwys cyfres ddogfen Sara Manchipp: I Mewn i’r Manosphere a chynnwys gwreiddiol gan wasanaeth digidol Newyddion S4C ar ffurf YouTube Shorts.
Tu hwnt i newyddion, mae amrywiaeth o gynnwys YouTube-yn-gyntaf wedi’i gomisiynu gan S4C gan gynnwys cyfres o saith o gomedïau byrion 10 munud (i’w rhyddhau ar YouTube o 11 Mai) a bydd mwy o’r cyfresi adloniant Cabarela a Rhwydwaith Menywod Cymru.
Mae YouTube hefyd yn gartref i chwaraeon byw gan S4C, o bêl-droed a rygbi o'r cynghreiriau cenedlaethol i bencampwriaeth dartiau Prydain, fu'n hynod o boblogaidd yn ddiweddar yn denu gwylwyr ar draws y DU.
Mae’r bartneriaeth gyda YouTube yn fodd o helpu gwireddu uchelgais S4C i fod yn ddarlledwr digidol-yn-gyntaf - un o brif bileri strategaeth bum-mlynedd S4C, Mwy Na Sianel Deledu, a gafodd ei lansio ym mis Medi 2025.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae'r sgyrsiau diweddar rwy’ wedi’u cael gyda phenaethiaid YouTube yn y DU wedi bod yn bositif, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am eu parodrwydd i gydweithio gyda S4C wrth i ni anelu i wneud cynnwys Cymraeg yn fwy amlwg ar blatfform mor boblogaidd.
“Mae data diweddar yn dangos i ni bod pobl ifanc yn enwedig yn byw a bod ar YouTube, a thrwy'r bartneriaeth yma gallwn gomisiynu, teilwra a chyhoeddi ein cynnwys mewn modd sy'n denu cynulleidfaoedd ehangach. Mynd ag S4C at bobl lle maen nhw yw'r nod, nid aros i bobl ddod at S4C.”
Dywedodd Alison Lomax, Rheolwr Gyfarwyddwr YouTube UK: “Rydym wrth ein boddau i bartneru gyda S4C wrth iddynt atgyfnerthu eu presenoldeb digidol a dod â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant i lwyfan fyd-eang.
“O sgetsys egniol, digidol-yn-gyntaf Hansh i anturiaethau coginio rhyngwladol Chris ‘Flamebaster’ Roberts, mae cynnwys S4C wastad yn gwthio ffiniau creadigol tra’n cynnal safonau cynhyrchu uchel.
“Drwy ddyblu eu hamser gwylio ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd gyda chyfresi digidol-yn-gyntaf fel rhai Ollie Cooper a Tanwen Cray, mae S4C yn profi y gall treftadaeth leol droi’n frand digidol pwerus o’r radd flaenaf.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.