100 o ddiwrnodau cyn dechrau’r Eisteddfod ym mro Y Garreg Las mae Einir Dafydd ac Ysgol Bro Preseli yn rhyddhau sengl newydd yn dathlu hunaniaeth yr ysgol a’r ardal.
Gydag Eisteddfod y Garreg Las rownd y gornel, mae trac newydd wedi cael ei chyhoeddi gan y gantores leol Einir Dafydd, ynghyd â Ysgol Bro Preseli.
Cafodd Iaith y Garreg Las ei chyfansoddi gan Einir, gyda geiriau’r prifardd Ceri Wyn Jones fel anthem fodern i’r ysgol a thra’n dathlu iaith a diwylliant ardal Gogledd Sir Benfro.
Yn blethiad o werin Celtaidd, canu corawl, a sŵn pop ysgafn Einir, mae’r gân yn floedd hyderus o hunaniaeth a hyder yr ardal.
Gweithiodd Einir a Ceri gyda disgyblion yr ysgol i greu cân sydd yn dathlu treftadaeth ardal Ysgol Bro Preseli, o’r dafodiaeth i’r ddaearyddiaeth, gyda phob pentref a phlwyf yn cael eu henwi.
Ar ôl ennill WawFfactor a Cân i Gymru aeth Einir ymlaen i recordio gyda label Fflach gan rhyddhau nifer o EPs a senglau.
Yn ddiweddar mae wedi dychwelyd i’r llwyfan gyda’i band, gan gyflwyno set sy’n llawn o’i chaneuon nodweddiadol gwerinol ynghyd â chaneuon ei hewythr Richard Jones (Ail Symudiad).
Mae Einir a’r prifardd Ceri Wyn Jones o Aberteifi wedi cydweithio ar nifer o ganeuon cofiadwy, gan gynnwys y gân fuddugol yng Nghân i Gymru 2007, Blwyddyn Mas.
Meddai Einir: “Mae’r garreg las yn symbol mor bwysig o’n hunaniaeth ni yma yn y Preselau. Mae hi wedi bod yn fraint cael disgyblion yr ysgol yn cyd-ganu’r gân gyda fi ac yn dathlu eu cynefin.”
Dyma’r gân gyntaf i Ysgol Bro Preseli ei rhyddhau, ac mae’r sain cynnes, trwchus yn deyrnged i’r gwaith anhygoel sydd yn cael ei wneud yn yr ysgol yn datblygu talent creadigol.
Cefnogwyd y prosiect gan Cyngor Sir Penfro a’r Egin trwy eu prosiect Gwd Thing.
Bydd fideo wedi ariannu trwy Gwd Thing i gyd-fynd â’r sengl yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar raglen Heno ar S4C ar yr 22ain o Ebrill.
Wedi ei gyfarwyddo gan Rhys D, mae’n cynnwys pob un o ddisgyblion yr ysgol, ac wedi’i greu gyda syniadau’r disgyblion yn dilyn cyfres o weithdai yn Yr Egin.
Meddai Carys Ifan, a oedd yn rhedeg y prosiect ar ran Yr Egin: “Mae’n bleser gallu cefnogi gwaith artistiaid trwy’r prosiect Gwd Thing.
“Mae’n hollbwysig i ni bod gwaddol creadigol ar ôl dyfodiad yr Eisteddfod ac mae’r gân yma, a’r fideo cyfatebol yn ffordd berffaith o roi profiad unigryw a bythgofiadwy i’r bobl ifanc.”
Bydd y sengl newydd Iaith y Garreg Las ar gael i’w ffrydio o’r 23ain o Ebrill.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.