BYDD y digrifwr Elis James yn perfformio ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf eleni, gyda mynediad i’r gig ar y 5 Awst yn rhad ac am ddim gyda thocyn Maes.

Yn enedigol o ardal Eisteddfod y Garreg Las, bydd Elis yn dychwelyd i’w filltir sgwâr i godi to’r Pafiliwn gyda digon o hwyl a chwerthin.

Yn enwog am wneud cysylltiadau cyflym gyda phobl o bob rhan o Gymru ar ei bodlediad ‘Elis & John’ ar BBC Sounds, dyma groesawu Elis i’r Eisteddfod, un o’r llefydd gorau yn y byd i gysylltu â’i gyd-Gymry.

Gyda’i gomedi arsylwadol sy’n aml wedi’i ysbrydoli gan ei fagwraeth yng ngorllewin Cymru, mae disgwyl i hon fod yn noson llawn hiwmor i nodi hanner ffordd drwy wythnos yr Eisteddfod.

Dywedodd Elis: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Sai erioed wedi gwneud stand-yp yn y Pafiliwn o’r blaen. Bydd Mam ‘na, dwi’n siŵr bydd aelodau eraill o’r teulu ‘na hefyd, ond peidiwch becso, fi’n un o’r bobl na sy’n ddoniol o dan bwyse!”

Cafodd Elis ei eni yn Hwlffordd a’i fagu yng Nghaerfyrddin. Mae’n ddigrifwr, cyflwynydd podlediadau, actor a darlledwr. Ers 2014, mae’n cyflwyno sioe radio gyda’i ffrind a’i gyd-ddigrifwr John Robins, yn wreiddiol ar Radio X cyn symud i BBC 5 Live yn 2019.

Elis yw un o gomediwyr mwyaf poblogaidd Prydain. Teithiodd Gymru gyda’i sioe gomedi , Derwydd, nôl yn 2024. Recordiodd sioe fel rhan o’r daith honno yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin. Yn ddiweddar, mae wedi ailgychwyn perfformio stand-yp drwy gyfrwng y Saesneg ar ôl dros ddegawd o seibiant.

Mae tocynnau dydd, sy'n cynnwys mynediad i'r gig, ar gael drwy wefan yr eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd, gogledd Sir Benfro o 1-8 Awst eleni.