‘Syniadau ar gyfer y Nadolig’ oedd pwnc cyfarfod Merched y Wawr Aberystwyth nos Lun, 20 Tachwedd yn Festri’r Morfa.

Yn gyntaf croesawodd Megan Jones dwy aelod newydd, wedyn cyflwynodd hi dwy ymwelydd, a dechreuodd yr hwyl.

Diddanodd Angharad Davies (Facebook: Halibalŵn) â ni â’i dawn gwneud addurnau gyda balwnau.

Wrth gwrs roedden ni i gyd yn disgwyl am falŵn i ffrwydro – digwyddodd dim ond unwaith – ac ar ôl hynny roedden ni’n hapus i fwynhau ei sioe lliwgar. Doeddwn i erioed wedi gweld rhywun un gwneud balwnau bychain y tu mewn i falŵn mawr.

Wedyn roedd tro Caryl Jones (Facebook: Chwaethus) i ddangos ei sgil wrth wneud lluniau defnydd.

Esboniodd hi sut mae hi’n eu dylunio gan ddefnyddio brasluniau a’i chyfrifiadur cyn iddi fynd i’w pheiriant gwnïo â’r defnydd.

Roedd ei chlustogau, bagiau a chardiau yn bert iawn. Diolch yn fawr i’r ddwy ohonyn nhw am ddod i roi noson arbennig i ni.

Yn y prynhawn cwrddodd aelodau Clwb Llyfrau yng Ngwesty’r Marine i drafod Pwy yw Moses John? nofel dditectif newydd gan Alun Davies.

Diolch i Helen Davies, cawson ni gyfle i wylio Alun Davies yn siarad am ysgrifennu nofelau ditectif ar recordiad Zoom – sut i ddenu’r darllenydd a’i chadw hi yn hwy na’r tudalen cyntaf – roedd yn ddiddorol dros ben.

Y tro nesaf (2yh, 15 Ionawr, Gwesty’r Marine) byddwn ni’n trafod Gladiatrix gan Bethan Gwanas, Bod Rhydderch gan Lona Patel a Pryfed Undydd gan Andrew Teilo. Does dim rhaid darllen pob un llyfr cyn dod i’r sgwrs!

Bydd croeso mawr i aelodau newydd ym mhob cyfarfod Merched y Wawr.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]