MAE plant Ysgol Tudweiliog wedi cymryd rhan yn wythnos ffitrwydd Ysgolion Cynradd Gwynedd.

Mae’r digwyddiad wedi cael eu drefnu gan tîm Pobl Ifanc Egniol i godi lefelau ffitrwydd plant ysgolion cynradd ac uwchradd y sir trwy redeg cyfanswm o 6000 o filltiroedd, o Wynedd i Rio De Janeiro yn ne America.

Targed yr ysgol oedd i redeg 100 milltir o fewn yr wythnos er mwyn cyrraedd y nôd.

Fe aeth y disgyblion gam ymhellach a rhedeg cyfanswm o 337.5 milltir. Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran.