Ala Road
MORNING worship at the Presbyterian church this coming Sunday, 10 January, will be led by Rev Peter Rodgers, Criccieth.The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Capel Penlan
FEL ARFER cafwyd cefnogaeth ardderchog i oedfa Nadolig y plant capel Penlan a gynhaliwyd ar fore Sul, 20 Rhagfyr.Dyna braf oedd cael llond y festri fawr o gwmni rhieni, teidiau a neiniau a ffrindiau, ynghyd â nifer o aelodau.Y tro yma roedd y plant i gyd (gan gynnwys Anti Carys ac Anti Glenys) wedi’u gwisgo’n lliwgar mewn siwmperi Nadolig, gyda phen-wisgoedd pwrpasol yn dynodi cymeriadau stori’r Geni.Bechgyn ac un ferch, 9 a 10oed oedd yr angylion (ac nid plant bach) a chawsant gryn hwyl yn gwisgo adenydd ac yna’n troi’n ddoethion gan gyflwyno anrhegion i’r baban Iesu.Cymerwyd rhan gan Cai a Jac Adams, Tomos a Lea Roberts, Enlli a Guto Roberts, Cian Love, Sam Lloyd Griffith a Max Griffith. Cafwyd cymorth 12 o oedolion gyda’r darlleniadau ac, yn ôl yr arfer, manteisiwyd ar ddawn gerddorol Gwenan Gibbard gyda’r delyn i roi naws hyfryd i’r cyfan.Ar ddiwedd yr oedfa a’r parti oedd yn dilyn cafwyd ymweliad gan wr pwysig iawn, neb llai na Siôn Corn (Ifan Jones, Penrallt) ei hun. Dymuna’r gweinidog, y Parch Glenys Jones ddiolch i bawb a fu o gymorth gyda’r trefniadau.
Oedfaon/Services
ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, morning prayer/boreol weddi; Wednesday, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, Parch Pryderi Ll Jones, Criccieth.Capel Penlan: 10yb, Parch A Meirion Roberts, Pwllheli.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.