Diwedd flwyddyn diwethaf bu Jo Scott o archfarchnad Asda, Pwllheli mewn ocsiwn addewidion a cynhaliwyd yng ngwesty’r Goedlen, Edern.
Roedd y noson wedi ei drefnu gan griw ‘Dinasyddion’ Dinas sydd yn brysur yn casglu arian i cael diffib yn y pentref.
Unwaith eto fe aeth Jo draw i werthu raffl gan lwyddo i wneuderth £135 ar y noson a bellach mae Asda wedi rhoi siec am yr un cyfanswm iddynt fel rhan o’u cynllun ‘grant ychwanegol’. Felly mi gododd raffl Jo gyfanswm o £270 i’r apêl arbennig hwn.
Yn y llun o’r chwith: Stuart Lee (rheolwr Asda Pwllheli), Leila Griffith (4), Debbie Hough (y ddwy yn cynrychioli criw y Dinasyddion) a Jo Scott.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.