Ar ôl saib o ddwy flynedd oherwydd pla’r Covid, mae Cymdeithas Ceredigion yn falch o allu cynnal ei heisteddfod flynyddol yn y cnawd.

Cynhelir yr eisteddfod at nos Sadwrn, 5 Mawrth, pan fydd y swper arferol o gawl arbennig Caffi Emlyn, Tan-y-Groes, ar gael i groesawu cystadleuwyr a’r beirniad, y Prifardd Aneirin Karadog.

Prif wobr yr eisteddfod lenyddol yw Cadair Goffa Pat Neill am awdl mewn cynghanedd gyflawn ar y pwnc ‘Tyfu’.

Eleni, gwneuthurwr y gadair yw Rhodri Jones o Abertawe, sydd yn fyfyriwr ail flwyddyn yn dilyn cwrs Dylunio a Gwneud Dodrefn yng Ngholeg Ceredigion, Aberteifi.

Gyda cydweithrediad y coleg, fe fydd y Gymdeithas yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i gynllunio a chreu cadair bach ar gyfer y wobr arbennig yma.

Er yn fyfyriwr, mae Rhodri yn hunangyflogedig, yn gwneud ac yn gwerthu anrhegion pren a dodrefn bach.

Mae’n hoffi esthetig glân gan roi sylw i fanylion bach fel dewis pren addas, siap ac ymarferoldeb y darn.

Ond nid gwaith coed yw unig ddiddordeb Rhodri; yn wreiddiol fe aeth i brifysgol i astudio cerddoriaeth ac mae ef nawr yn aelod llawn amser o fand priodas /digwyddiadau, yn chwarae’r drymiau.

Mae e’ wrth ‘i fodd yn teithio a pherfformio cerddoriaeth amrywiol o amgylch y Deyrnas Unedig.

Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn llên gwerin a chwedloniaeth Cymru, a dyna beth ysbrydolodd y dderwen ar gefn y gadair.