YN Rhagfyr cynhaliwyd seremoni wobrwyo flynyddol Ysgol y Moelwyn i ddathlu llwyddiannau’r disgyblion.

Roedd y noson yn gyfle i rieni, athrawon ac aelodau o’r gymuned ymfalchio yn llwyddiannau y bobl ifanc sydd yn ddyfodol i`r gymuned a’r ardal.

Roedd y neuadd dan ei sang ar y noson a phawb yn hynod gyffrous i gael gweld pwy fyddai’n cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled. Agorwyd y noson gan gôr yr ysgol yn canu ‘Yn dy freichiau’ gydag Efa James o flwyddyn 9 yn cyfeilio a Wendy Jenkins Pennaeth yr Adran Gerdd yn arwain.

Roedd pob math o feysydd yn cael eu gwobrwyo ar y noson; presenoldeb, ymdrech, cynnydd, sgiliau, cyrhaeddiad a chyfraniad cymunedol o’r radd flaenaf. Y disgyblion a dderbyniodd dystysgrifau am bresenoldeb 100% oedd Mollie Davies, Osian H Edwards, Bronwen Evans, Beca Jones, Gwenllian Jones, Llinos Roberts, Steffan Rowlands a Cian Williams o flwyddyn 8, Cemlyn Jones o flwyddyn 9 a Tesni Jones a Caryl Jones o flwyddyn 10. Llongyfarchiaddau iddyn nhw, tipyn o gamp peidio colli diwrnod o ysgol!

Roedd safonau academaidd a sgiliau unigolion gorau pob blwyddyn yn cael eu gwobrwyo ar y noson, Miss Sharon Davies Pennaeth yr adran Saesneg oedd yn cyflwyno’r gwobrau.

Gweld mwy o luniau mewn rhifyn Meirionnydd yr wythnos hon.