MAE tafarn gymunedol Y Fic yn Llithfaen wedi mynd i ysbryd y gêmau pêl-droed yn Ewrop o ddifri.
Yn ogystal ag addurno’r lle gyda dreigiau cochion, mae wedi prynu 60 o grysau-T arbennig i’w dosbarthu rhwng plant cynradd yr ardal.
Mae pob gêm yn y twrnament yn cael ei dangos ar sgrin fawr yn ystafell gymunedol y dafarn.
Maen nhw’n gobeithio y bydd y gweiddi wrth droed yr Eifl yn cael ei glywed yn Ffrainc!







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.