Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa brynhawn Sul diwethaf am 3yp ac yn ôl yr arfer roedd croeso cynnes i bawb yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas. Cafwyd ganddo anerchiad amserol a phwrpasol. Cofiodd am Brian, Gwêl y Cwm sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar, ynghyd â Beca fach, Glyncoch, hithau hefyd wedi derbyn llawdriniaeth. Atgoffodd y gynulleidfa am y bws sydd yn mynd i Firmingham i gynhadledd flynyddol yr enwad Undodaidd ar ddiwedd mis Mawrth - angen enwau i mewn mor fuan â phosib. Yn ystod y gynhadledd bydd cyflwyniad yn cael ei wneud i gofio’r diweddar Barch Jacob Davies, gan mae 100 mlynedd i eleni y cafodd ei eni. Wrth yr organ oedd Carol Rees.Ysgol GynraddPERRY Evans, Plwmp oedd enillydd loteri’r ysgol am fis Ionawr. Rhif y bêl lwcus oedd 42.
Cystadlu
ERBYN hyn mae rhaglen yr Eisteddfod Gadeiriol a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 7 Mai yn neuadd y pentref, wedi dod o’r wasg. Cysylltwch ag Emyr Griffiths ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295 i chi dderbyn eich rhaglen.
Rhagysbysiad
CYNHELIR Carnifal a Mabolgampau’r pentref ar ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur.






--Photo-NWP.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.