Capel y Fadfa
CYNHALIWYD oedfa’r Sul diwethaf am 10.30yb yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Ymlaen mewn Undod
DYDD Sadwrn diwethaf rhwng 10.30yb a 3yp yng Ngwesty’r Boars Head, Caerfyrddin roedd criw o Undodiaid Cymru wedi dod at ei gilydd i gynnal cynhadledd dan y pennawd ‘Ymlaen mewn Undod’. Digwyddiad dwyieithog oedd hwn, yn cynnig cyfle i bawb ddod at ei gilydd i rannu syniadau ac arfer dda, i wneud awgrymiadau ac i drafod ffyrdd posib o ddatblygu’r mudiad ar gyfer y dyfodol. Cytunodd Undodiaid Cymru yn ddiweddar i roi’r prif ffocws dros y flwyddyn nesa ar Wasanaeth i Ddynoliaeth, a hefyd wedi cytuno i gefnogi un prif elusen sef Cymorth i Fenywod, ac yn benodol BAWSO. Elusen yw BAWSO sy’n cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n dioddef o drais yn y cartref, masnachu pobl, priodasau gorfod a FGM yng Nghymru. Yn ystod y bore cafwyd gair o groeso gan Megan Jones ac yna gwnaeth Melda Grantham gyflwyno Ann Jones, Wyn Thomas a Lis Dyson Jones. Y tri yn rhannu arferion da yn eu hardaloedd o godi arian neu wirfoddoli ac yna cafwyd cyflwyniad gan ddwy swyddog o’r elusen BAWSO. Darparwyd cinio blasus gan y gwesty ac yna cafwyd trafodaethau grwp yn y prynhawn yn cynnig cyfle i bawb i roi eu syniadau ac awgrymiadau ymlaen. Hyfryd oedd gweld cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd o’r ddwy Gymdeithas i gymryd y cyfle i ymuno yn y trafodaethau ar y dydd.Cawl a ChânCYNHALIWYD noson o Gawl a Chân yn y Neuadd Goffa nos Sadwrn diwethaf am 7yh ac yn ôl yr arfer roedd croeso cynnes. Roedd plant yr ysgol ynghyd â phlant y Cylch Meithrin leol ac aelodau’r Adran yn cynnal cyngerdd yn dilyn y gweledda. Noson o wir ddiddanwch.Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at waith cynnal a chadw’r neuadd.
Paris
BRAF oedd clywed Lowri Davies, disgybl yn yr ysgol gynradd leol yn siarad ar Radio Cymru wythnos diwethaf yn fyw o Baris. Bu Lowri yn ffodus iawn i ennill gwobr gyntaf am ganu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd llynedd ac felly yn derbyn taith i Baris fel rhan o’r wobr i ddathlu dydd Gwyl Dewi ac i ganu yn fyw yno gydag enillwyr eraill. Taith fythgofiadwy iddi hi a’i theulu oedd hwn.
Ysgol gynradd
RHIF lwcus Loteri yr Ysgol am fis Chwefror oedd 55 – dim ond un enillydd oedd, sef Dolan Evans, Plwmp.
Gyrfa Chwist
NOS Iau yng Ngwesty Glanyrafon cynhelir Gyrfa Chwist dan nawdd Urdd y Benywod, Capel y Fadfa am 8yh. Bydd tâl mynediad o £1 i bawb a’r galwr fydd Gwendolin. Croeso cynnes i bawb.
Canu Gwlad
BYDD y noson Canu Gwlad gyntaf ar ôl toriad y gaeaf yng Ngwesty Glanyrafon ar nos Sadwrn, 2 Ebrill, pan fydd Clive Edwards yn ôl yn diddanu ar wahoddiad Hefin a Megan. Os am noson dda, cofiwch y dyddiad hwn.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.