Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa Gymun gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn falch o groesawi aelodau a ffrindiau’r achos ar y Sul cyntaf o Fai. Wrth yr organ oedd Siwsan Davies.Oherwydd amryw amgylchiadau ni fydd oedfa tan 5 Mehefin, pryd y cyn-helir Cwrdd Pawb Ynghyd gyda the i ddilyn yn y festri. Croeso i aelodau a ffrindiau’r achos i’r oedfa flynyddol hyn.

Ysgol Gynradd

CYNHELIR Taith Tractorau dan nawdd yr ysgol eleni eto, ar ddydd Sul, 5 Mehefin. Bydd y daith yn cychwyn o faes parcio’r neuadd. Rhagor o fanylion i ddilyn maes o law.

Canu

NOS Sadwrn, 14 Mai bydd y ddeuawd newydd o’r gogledd, sef Dafydd a Lisa yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau ymweld â’r ardal.

Capel Pisgah

YN ddiweddar cynhaliwyd taith gerdded flynyddol y capel. Daeth tyrfa luosog i gerdded lonydd cul yr ardal dan arweiniad Ronnie Davies. Llwyddwyd i godi swm sylweddol tuag at yr elusen ‘Hosbis yn y Cartref’. Diolch i bawb a gerddodd ac a gyfrannodd mor hael tuag at achos mor haeddiannol.

St David’s Church

PENTECOST, Sunday, 15 May, 9.30am, Holy Communion.