Capel y Fadfa
DDYDD Sul nesaf cynhelir Oedfa Undebol yn Hen Gapel Llwynrhydo-wen am 2yp yng ngofal y Parch Wyn Thomas.Ni fydd oedfa yng Nghapel y Fadfa tan 5 Mehefin, pryd cynhelir Cwrdd Pawb Ynghyd am 1.30yp a the i ddilyn.
Ysgol Gynradd
ENILLWYR rhif bonws loteri’r ysgol am fis Ebrill oedd Pugh a Rhiannon Jones, Gorlan, a Gruffudd Ceiro Dafis, Blaenglowon Fach. Rhif y bêl lwcus oedd 31.
Taith Tractorau
DDYDD Sul, 5 Mehefin, cynhelir taith tractorau yn y pentref.Pawb i gofrestru rhwng 9.30yb a 10.30yb yn y neuadd ac i gael ychydig o luniaeth cyn gadael ar y daith o amgylch lonydd cul yr ardal am 10.30yb. Bydd y daith yn gorffen yn Nhafarn Glanyrafon.Yr holl elw er budd yr Ysgol Gynradd, Cylch Ti a Fi ac Ysgol Feithrin. Am ragor o fanylion cysylltwch â 01545 590254 neu 01545 590433.
Aduniad Ysgol
TAFARN Glanyrafon oedd y man cyfarfod eleni eto am y 14eg flwyddyn.Daeth 20 o gyn-ddisgyblion a ddechreuodd yn Ysgol Sir Aberaeron yn 1948 ac ynghyd â’r achlysur pwysig hwn, sef y flwyddyn pan fydd pawb yn dathlu eu penblwydd yn 80 oed.Cafwyd croeso twymgalon a chinio blasus fel arfer gan Hefin a Megan. Rhoddwyd cacen arbennig gan Mar-garet Williams a gwydriad o ddiod gan Barbara Davies i ddathlu’r achlysur.Roedd y cyn-ddisgyblion canlynol yn bresennol: Tegwen Parry, Margaret Williams, Betty Elin Morris (Davies), Rosemary Nicholson (Jones), Barbara Davies (Warlow), Doromie Lloyd (Williams), Violet Griffiths (Whitfield), Nellie Davies (Morgan), Eluned Griffiths (Jones), Howard Jones, Alun Jenkins, Granville Edwards, Alwyn Lloyd, Eryl Jones, Roy Jones, Gwyn Daniel, Dilwyn Davies, John Jenkins, Gwynne Griffiths a Glyn Davies.Ein gwr gwadd oedd Henry Jones, un arall o gyn-ddisgyblion Aberaeron, ond un a ddechreuodd ddwy flynedd o’n blaenau yn y flwyddyn 1946.Cafwyd ganddo rhai o’i atgofion diddorol a doniol am ei ddyddiau ysgol, ac fel yntau, daeth atgofion melys ‘nôl i ninnau hefyd.Yn anffodus, method rhai o’n ffrin-diau â bod yn bresennol, yn eu plith Dai Edwards o Ganada ac Owen Dav-ies o Awstralia – y ddau yn wreiddiol o Gei Newydd.Rydym eisoes wedi trefnu ein haduniad am y flwyddyn nesaf, sef 7 Ebrill, i’w gynnal eto yn Nhafarn Glanyrafon.CanuNOS Sadwrn bydd y diddanwr Tudur Wyn yn ôl unwaith eto yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.
Gwyl Talgarreg
CYNHELIR yr wyl eleni ar benwythnos gyntaf mis Gorffennaf.Bydd helfa drysor ar droed ar y nos Wener, trefnwyr fydd enillwyr llynedd; ymgynnull yn y neuadd rhwng 6yh a 7yh. Bydd tâl mynediad o £1 y person, gyda phlant ysgol gynradd am ddim.Ddydd Sadwrn yng nghae’r ysgol am 2.30yp cynhelir y carnifal a’r mabolgampau, ras Sion Cwilt, barbeciw, rownderi a thynnu’r gelyn.Tâl mynediad fydd £3 a phlant yr ysgol gynradd am ddim.Thema’r fflôt eleni fydd Ewrop.
Eisteddfod
ENILLYDD y wobr gyntaf ar unrhyw offeryn cerdd agored oedd Megan Teleri, Llanarth







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.