Capel y Fadfa
DOES dim oedfa yn y capel tan 17 Gorffennaf, pan fydd Oedfa Gymun am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Dewi Emrys
NOS Sul diwethaf gwelwyd rhaglen ar S4C yn olrhain hanes y bardd Dewi Emrys, gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan yn cyflwyno. Enillodd Dewi Emrys y Gadair yn y Genedlaethol bedair gwaith, yn Lerpwl yn 1929, Llanelli yn 1930, Bangor yn 1943 a Phen-y-bont ar Ogwr yn 1948.Daeth Dewi Emrys i fyw, gyda’i ferch Dwynwen i ‘Y Bwthyn’ yn y pentref yn 1941 ac yn y fan honno y treuliodd weddill ei oes.Bu farw yn Aberystwyth ym Medi 1952 a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.