YN ail bennod Y Cyfweliad ar S4C, mae cyn-fewnwr Cymru Mike Phillips yn trafod rhai o’r cyfnodau anoddaf yn ei fywyd, gan rannu ei straeon â hiwmor a gonestrwydd.

Fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Assembly) yw Y Cyfweliad - lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.

Y seren rygbi i Gymru a’r Llewod Mike Phillips yw’r ail i gymryd rhan yn y gyfres newydd hon fydd i’w gweld ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Fawrth 6 Ionawr am 21.00.

Yn ystod y sgwrs, mae’n trafod yn ddidwyll am yr adegau sydd ddim wastad wedi bod yn hawdd – gan gynnwys gorfod dweud wrth ei rieni am gael ei ddal yn yfed a gyrru.

Ymysg y cwestiynau amrywiol, mae Mike Phillips yn disgrifio’r digwyddiad fel “un o’r pethau gwaethaf” mae o wedi’i wneud.

Yn y rhaglen, mae’n dweud: “Oni mor grac gyda fy hunan achos mae e'n un o'r pethau gwaethaf fi wedi neud.

“Oni'n upset gyda fy hunan a wedi torri lawr gyda Mam a Dad a gadael pobl lawr. Ond lwcus iawn bod dim byd drwg wedi digwydd."

Ac mae’n cyfeirio nol at y cyfnod yma a dweud wrth ei rieni wrth i Jac ofyn pryd oedd y tro diwethaf iddo grio.

Mae’r rhaglen hefyd yn trafod ei fagwraeth ar fferm yn sir Gaerfyrddin, ei fywyd yn Dubai, a sefyllfa rygbi yng Nghymru heddiw.

Enillodd Mike Phillips 99 cap rhyngwladol dros Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon a rhwng 2008 a 2013, roedd yn un o fewnwyr peryclaf y gamp.