THE latest community news from around Talgarreg.

Capel y Fadfa

DDYDD Sul nesaf cynhelir yr oedfa am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn falch i groesawi aelodau a ffrindiau i’r oedfa.

Mewn oedfa yn ddiweddar, cofiodd y gweinidog am Oliver Davies, sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Heath a dymunodd yn dda i Margaret Griffiths sydd wedi ymddeol o’i gwaith yn yr ysgol leol ar ôl 42 o flynyddoedd.

Clywyd mai prif fachgen Ysgol Llanbed am y flwyddyn nesaf fydd Alwyn, wyr Aerona a John, Glynriced.

Aeth ymlaen i ddiolch i bawb a gyfrannodd gacennau tuag at y daith gerdded a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Rhaghysbysiad, cynhelir Cwrdd y Gymdeithas yn y Bwlch ar ddydd Sul, 2 Hydref am 1.30yp.

Bydd Llywydd Cenedlaethol yr enwad yn ymuno yn yr oedfa, ynghyd â’r Parch Eric Jones, Aberdâr gyda’r Parch Alun Wyn Davies wrth yr organ.

Y digwyddiad hwn fydd yr un olaf i ddathlu 100 mlynedd ers geni’r diwed-dar Barch Jacob Davies.

Canu Gwlad

BYDD Tudur Wyn yn ôl yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan ar nos Sadwrn, 6 Awst, felly cyfle i glywed ambell i gân boblogaidd ac ambell i jôc gan y did-danwr poblogaidd hwn.

Ennill Cadair

YN ddiweddar cynhaliwyd Eisteddfod Ysgol Bro Siôn Cwilt, lle enillodd Awen Onwy Evans, Y Plas, y gadair am ysgrifenni stori am ‘Yr hen dy gwag’.

Darllenodd Donna Thomas ddetholiad o’i gwaith ac roedd yn hawdd gweld fod ysgrifennu yn rhan annatod ohoni.

Roedd y digwyddiad yn un emosiynol wrth weld Awen yn eistedd yng nghadair yr ysgol, cadair a roddwyd i’r ysgol gan ei thadcu, sef y Prifardd Donald Evans.

Capel Pisgah

CYNHELIR Barbeciw Gofalaeth y Parch Carys Ann yn Festri Capel Glynarthen am 7yh ar nos Wener, 19 Awst.

Neuadd Goffa

NOS Sadwrn, 10 Medi cynhelir Miri Medi yn y neuadd, noson o fwynhad i’r teulu cyfan. Rhagor o fanylion i ddod.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]